Newyddion S4C

Hogyn hirgoes yn creu'r jîns 'perffaith'

19/08/2021

Hogyn hirgoes yn creu'r jîns 'perffaith'

Mae perchennog busnes o Borthmadog wedi defnyddio platfform cymdeithasol TikTok i greu y pâr o jîns “perffaith”.

Ac yntau dros chwe troedfedd o dal, fe benderfynodd Osian Gwynedd, 29 oed, sefydlu Antur Supply Co yn 2018, gan ei fod yn “anhapus” gyda’r dewisiadau oedd ar gael ar y farchnad. 

“Y rheswm dwi wedi cychwyn y project denim yma ydy’r ffaith dwi’n 6”7 a doeddwn ni erioed ‘di gallu prynu jîns oedd yn ffitio,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

“Rheswm arall oedd genai oedd bob jîns oeddwn ni yn prynu, oeddan nhw’n torri.

“So, neshi ddechra’ holi’n ffrindia’ ac oedd pawb yn gael yr un broblem, a neshi feddwl – allai neud wbath amdan hwn.

“Neshi sbïo fewn idda fo a creu ryw fath o denim sydd yn unrestricted ac ‘efo blend sbeshal o jîns – mae o’n lot fwy cyfforddus na’r jîns normal.”

‘O Borthmadog i Bacistan’

Yn ôl Osian, sy’n dylunio’r jîns ym Mhorthmadog, mae’r deunydd yn gryfach ac yn gallu ymestyn yn well na jîns arferol.

Gyda chynaliadwyedd yn holl bwysig iddo, mae’r jîns yn cael eu creu gan gynhyrchwyr ym Mhacistan sydd yn arbenigo mewn cemegau organig a llai o ddŵr nag ffatrïoedd eraill er mwyn datblygu’r dilledyn.

Image
Antur Supply Co
Mae gan Antur bron i 87.3k o ddilynwyr a 639.1k o bobl wedi hoffi cynnwys y cyfrif TikTok. [Llun: Antur]

Fel llawer o bobl ifanc y dyddiau hyn, mae Osian wedi ceisio manteisio ar blatfform TikTok i ddarganfod beth mae cwsmeriaid yn chwilio amdano wrth brynu’r jîns “perffaith”.

Erbyn hyn, mae gan Antur bron i 87.3k o ddilynwyr a 639.1k o bobl wedi hoffi cynnwys y cyfrif.

“Dyna beth sydd yn dda efo TikTok – ti’n cael adborth gan bobol yn syth bin,” eglurodd.

“Un peth naeth weithio yn rili da i ni ar TikTok, oedd dangos pa mor dyfn oedd pocedi jîns Antur ni ar jîns merched i gymharu efo cwmniau eraill.

“Gafodd ni rhyw 100 o ymateb yn gofyn i ni neud nhw’n ddyfnach ac yn fwy.

“Naeth y ni, ac o fewn pythefnos, gafodd ni sampl arall ac oedd o’n union be’ oeddan ni isho a naeth hwnna jyst mynd wedyn.

“Dwi’n meddwl dyna be’ sy’n mor dda am TikTok, lle ‘da ni ‘di gallu adio lot o bethau i’r jîns yma neshi ddim meddwl am yn wreiddiol a wan gyda help y gynulleidfa da’n ni wedi gallu creu jîns rili rili cwl.”

Wrth i’r cwmni fynd o nerth i nerth, mae Osian wedi cychwyn ymgyrch ‘kickstarter’ sydd yn galluogi pobl i gefnogi busnesau ar-lein.

Hyd yn hyn, mae Antur Supply Co wedi casglu bron i £37,482.

“Mae’n teimlad grêt i rhoi wbath ar bapur a gweithio ar wbath am mor hir, a dod allan efo wbath a mae pawb yn licio.

“Mae’r busnes wedi cychwyn Kickstarter wan a mae’n rhyfeddol faint ‘da ni wedi llwyddo o fewn 10 awr.

“Mae’n teimlad da.”

Prif lun: Antur Supply Co

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.