Newyddion S4C

Busnesau’r gogledd yn gweld ‘mwy o dwristiaid nag erioed’

ITV Cymru 18/08/2021

Busnesau’r gogledd yn gweld ‘mwy o dwristiaid nag erioed’

Mae busnesau yn y gogledd yn dweud eu bod nhw wedi gweld mwy o dwristiaid eleni nag erioed o’r blaen, wrth i ansicrwydd ynghylch teithio dramor barhau.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 80% o bobl yn treulio eu gwyliau yn y DU eleni.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi annog y cyhoedd i fynd ar wyliau o fewn ffiniau’r Deyrnas Unedig am y tro, wrth i Covid-19 barhau yn rhan o fywyd pob dydd.

Ym Mlaenau Ffestiniog, mae Zip World Llechwedd wedi gweld cynnydd o 60% mewn ymwelwyr yr haf hwn o gymharu â ffigyrau 2019.

Wrth siarad gyda ITV Cymru, dywedodd rheolwr Zip World Llechwedd Richard Manchett eu bod nhw’n cael “haf anhygoel”, a bod pobl yn teithio tair neu bedair awr i ymweld â’r safle. 

Mae’r atyniad poblogaidd yn gobeithio bydd statws rhyngwladol UNESCO newydd ardaloedd llechi Gwynedd yn denu hyd yn oed mwy o dwristiaid i’r ardal yn y dyfodol.

Mae Cymru yn dilyn system oleuadau traffig teithio, sydd yn golygu fod gwledydd wedi eu rhannu mewn i restrau gwyrdd, oren, a choch.

Mae rheolau teithio gwahanol sydd yn rhaid eu dilyn ar gyfer pob rhestr.

Gallwch ddarllen pa wledydd sydd ar ba restr yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.