Newyddion S4C

Covid-19: Newidiadau i reolau teithio rhyngwladol yng Nghymru

08/08/2021
Newyddion S4C

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno system oleuadau traffig teithio newydd ar gyfer y wlad o ddydd Sul 8 Awst.

Daw hyn ar ôl i'r llywodraeth alw penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno newidiadau i’r rhestrau o wledydd coch, oren a gwyrdd yn Lloegr ar gyfer teithio rhyngwladol yn "annerbyniol".

Yn ôl Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, Eluned Morgan, roedd penderfyniadau ar gyfer Lloegr wedi eu gwneud "heb drafod" â Llywodraeth Cymru na'r llywodraethau datganoledig eraill. 

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno system goleuadau traffig fydd yn dilyn yr un trywydd â threfn Llywodraeth y DU. 

Mae Awstria, yr Almaen, Slofenia, Slofacia, Latfia, Romania a Norwy wedi cael eu symud o’r rhestr oren i’r rhestr werdd. Mae Georgia, La Réunion, Mayotte a Mecsico yn cael eu symud o’r rhestr oren i’r rhestr goch.

Yn ogystal, mae India, Bahrain, Qatar a'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn cael eu symud o’r rhestr goch i’r rhestr oren.

Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd Eluned Morgan: "Rydym yn hynod siomedig â’r dull gweithredu unochrog hwn ac yn credu bod risgiau amlwg o hyd i iechyd y cyhoedd wrth roi’r hawl i deithio’n rhyngwladol tra bo'r feirws yn ar led yn fyd-eang.

“Am y rhesymau hyn, rydym yn parhau i argymell na ddylid teithio’n rhyngwladol yr haf hwn ac eithrio am resymau hanfodol.

"Fodd bynnag, gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr, ni fyddai'n ymarferol nac yn bosibl cyflwyno polisi iechyd gwahanol ar wahân ar gyfer y ffin.

"Felly, byddwn ninnau’n gwneud yr un newidiadau â’r rhai sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn cynnal yr un system goleuadau traffig â gweddill y DU. "

Fe ategodd y llywodraeth na fyddai angen i bobl sydd wedi eu brechu'n llawn yn y DU, yn Ewrop neu yn Unol Daleithiau America, yn gorfod hunan-ynysu a chymryd prawf PCR ar yr wythfed diwrnod ar ôl cyrraedd o Ffrainc.

Llun: szeke

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.