Newyddion S4C

Y Ffair Aeaf yn dychwelyd i Lanelwedd

y ffair aeaf

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cadarnhau y bydd y Ffair Aeaf yn dychwelyd i Lanelwedd eleni.

Mae’r ffair wedi ei chynnal yn flynyddol ac yn cynnwys cystadlaethau a chyfle i siopa Nadolig, ond llynedd cafodd ei chynnal yn rhithiol yn sgil y pandemig. 

Bydd y ffair yn cael ei chynnal rhwng 29 a 30 o Dachwedd eleni a gellir prynu tocynnau ar ffurf e-diced yn unig.

Dywedodd Alwyn Rees, Cadeirydd Pwyllgor y Ffair Aeaf bod y gymdeithas yn “falch iawn” o gael cynllunio ei digwyddiad mawr cyntaf yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid-19. 

“Rwy’n siŵr bod yna lawer o arddangoswyr, masnachwyr a noddwyr wedi aros yn eiddgar am ddychweliad y digwyddiad ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl ar gyfer Ffair Aeaf 2021.

“Mae’r digwyddiad yn cael ei gynllunio yn unol â chyfyngiadau Covid-19  y llywodraeth, ond mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at sioe lwyddiannus a hoffem annog pawb sy’n gysylltiedig â’r ffair i gymryd rhan yn nigwyddiad eleni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.