Newyddion S4C

Afghanistan: ASau yn beirniadu cynllun i ailgartrefu ffoaduriaid

18/08/2021

Afghanistan: ASau yn beirniadu cynllun i ailgartrefu ffoaduriaid

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson wedi gorfod amddiffyn cynllun ei lywodraeth i ailgartrefu ffoaduriaid o Afghanistan.

Cafodd y cynllun i ailgartrefu hyd at 20,000 o ddinasyddion ei gyhoeddi ddydd Mercher gan yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, lle bydd y bobl mwyaf bregus yn cael blaenoriaeth.

Daw hyn wrth i’r grŵp eithafol Taliban gipio grym yn Afghanistan, gyda’r llywodraeth yn addo ailgartrefu 5,000 yn y flwyddyn gyntaf.

Mae Aelodau Seneddol o Gymru ymhlith y rhai sydd wedi herio’r cynllun mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher.

Dywedodd Chris Bryant A.S. Llafur dros y Rhondda: “Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref y bore 'ma y bydd y DU yn derbyn 20,000 o ffoaduriaid o Afghanistan, ond mai dim ond 5,000 fydd yn cael dod eleni.

“Beth mae’r 15,000 yn fod ei wneud, aros o gwmpas nes eu bod nhw’n cael eu dienyddio?”

Mae Aelod Seneddol o’r un blaid a’r Prif Weinidog wedi ategu sylwadau Mr Bryant, gyda David Davis A.S. yn galw am gynyddu’r ffigwr i 50,000.

Nid yw’r ffigwr yn ddigonol chwaith gan y blaid Lafur, ac fe ddylai'r DU ailgartrefu 35,000 yn ôl yr SNP.

'Dan ni'n barod'

Dywedodd Rachel Watkin o Refugee Kindness wrth raglen Newyddion S4C: “Eisio helpu’n cymdogion ‘dan ni rili, y bobl sydd yn Cymru.

“So, ar y funud, ‘dan ni jyst yn aros ac yn gobeithio because mae rhaid i’r llywodraethau, cynghorau wneud gwaith nhw i dyfod â’r bobl yma.

“Os ma’ nhw yn dod, wel ‘dan ni’n barod”.

Ychwanegodd Ms Watkin: “Ma’ gannon ni bobl yn gweithio efo ni sy’n cyfieithu iddyn nhw, ‘cause y peth arall, dyw nhw hyd yn oed yn medru mynd allan, mynd i’r siopau, gwrdd â phobl ‘cause ‘di nhw’m yn nabod neb, a ‘di nhw’m yn gwybod lle i mynd i cael gwasanaethau i helpu nhw chwaith.

“So, ‘dan ni yno jyst er mwyn guidio nhw trwy’r steps gynta rili”.

'Argyfwng dyngarol'

Yn ôl Sky News, mae Boris Johnson wedi mynnu y gallai’r ffigwr o 5,000 mewn blwyddyn gynyddu wrth i’r cynllun gael ei adolygu.

Wrth ymateb i Chris Bryant A.S., ychwanegodd Mr Johnson y dylai’r Deyrnas Unedig rhoi pwyslais ar helpu’r bobl sydd yn aros yn Afghanistan er mwyn osgoi “argyfwng dyngarol hyd yn oed gwaeth”, a bod arweinwyr Ffrainc a’r Almaen yn cefnogi hyn.

Image
Stephen Doughty
Mae Stephen Doughty A.S. ymhlith y rhai sydd wedi galw am eglurder ar gyfer canllawiau y cynllun ailgartrefu.  (Llun: Parliament Live TV)

Mae Aelodau hefyd wedi galw am eglurder ar gyfer sut i ymgeisio am y cynllun, gydag Aelod Seneddol Llafur dros Dde Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty yn disgrifio’r broses o geisio cyfathrebu gwybodaeth gyda rhai yn Afghanistan fel “anhrefn llwyr”.

Mae disgwyl gwybodaeth ar sut i wneud cais yn ddiweddarach ddydd Mercher, ac mae disgwyl iddo fod wedi ei seilio ar y cynllun a gyflwynwyd yn ystod rhyfel Syria, lle cafodd 20,000 o ffoaduriaid eu hailgartrefu yn y DU rhwng 2014 a 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.