Miley Cyrus yn llongyfarch Pino Palladino ar wobr Gymreig
Mae'r seren bop fyd enwog Miley Cyrus wedi llongyfarch y cerddor Pino Palladino o Gaerdydd ar ennill gwobr gerddoriaeth arbennig yng Nghymru.
Bydd Pino Palladino yn derbyn gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig fis nesa' yn seremoni Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.
Roedd wedi cyd-weithio ar albwm diwethaf Miley Cyrus, Something Beautiful, ac mae'r Cymro wedi chwarae gyda sêr eraill gan gynnwys Adele, Elton John a Harry Styles.
Dywedodd Miley Cyrus: "Roedd yn fraint i gael Pino i chwarae ar fy record ddiwethaf.
"Mae'n chwarae ar bob cân, gan gynnwys un sydd yn 13 munud o hyd.
"Dydw i ddim yn credu y byddwn ni wedi gwneud y gân honno heblaw am y ffaith bod neb eisiau i Pino stopio chwarae.
"Mae gweithio gyda Pino yn freuddwyd, mae'n wych bob tro."
Dywedodd ei fod yn "fraint bod fy ngwaith wedi cael ei gydnabod" trwy ennill y wobr hon.
Mae Dafydd Iwan, Pat Morgan o'r band Datblygu, Mike Peters a Meic Stevens wedi ennill y wobr yn y gorffennol.
Mae Palladino, sy'n dod o deulu Cymreig-Eidalaidd o berchnogion bwytai yn ardal Yr Eglwys Newydd y brifddinas bellach yn byw yn Los Angeles.
Mae'n un o'r chwaraewyr bas mwyaf enwog a poblogaidd yn y byd, ar ôl chwarae ar ddau o albymau mwyaf poblogaidd y ganrif yma, sef '21' gan Adele a 'Divide' gan Ed Sheeran.