Cyhuddo dyn, 19, o ymosodiad difrifol yn Wrecsam

Mae dyn 19 oed wedi ymddangos o flaen ynadon Llandudno wedi ei gyhuddo fel rhan o ymchwiliad i ymosodiad difrifol yn Wrecsam dros y penwythnos.
Cafodd Christopher Keenan o Fryn Offa, Wrecsam, ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, bod ag arf yn ei feddiant ac o ddwyn ffôn symudol.
Daw hyn yn dilyn ymosodiad “difrifol” i ddyn 18 oed, a ddigwyddodd ger archfarchnad Morrisons y dref ychydig wedi 12:00 ddydd Sul.
Dywed North Wales Live fod yr cyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad wedi dweud fod Keenan yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Cafodd cais am fechniaeth ei wrthod, a bydd yn parhau yn y ddalfa tan y bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ar 17 Medi.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Google