Taith olaf Richard ‘Fflach’ Jones wrth i dref Aberteifi ddod ynghyd

Mae tref Aberteifi wedi ffarwelio â Richard ‘Fflach’ Jones, un o frodyr y band Ail Symudiad, ar ôl i’w angladd gael ei gynnal yn y dref ddydd Sadwrn.
Daeth cadarnhad gan y teulu’n ddiweddar iddo farw heb yn wybod ei fod yn dioddef o ganser, ac fe ddaeth ei farwolaeth fis ar ôl i’w frawd Wyn farw, hefyd o ganser.
Cafodd Richard Jones ei gladdu ym Mlaenffos wedi’r gwasanaeth preifat yng Nghapel y Bedyddwyr Aberteifi, ond cafodd trigolion y dref gyfle i dalu teyrnged wrth iddo wneud “un daith olaf” o gartre’r teulu.
Darllenwch y stori'n llawn ar wefan Golwg360 yma.
Llun: Golwg/ Stuart Ladd