Cludo dyn i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl gwrthdrawiad ar yr A55
Mae dyn wedi ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir y Fflint.
Fe wnaeth yr heddlu dderbyn adroddiad am 2.14pm ddydd Sadwrn am wrthdrawiad un cerbyd yn ymwneud â Vauxhall Astra llwyd yn ardal Helygain.
Roedd yn ymuno â'r A55 tua'r dwyrain wrth Gyffordd 32 o’r A5026 pan wrthdrawodd â'r llain ganol.
Cafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty yn Stoke lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth, meddai Heddlu Gogledd Cymru fore Sul.
Mae'r Rhingyll Leigh McCann o'r Uned Troseddau Ffyrdd bellach yn apelio am dystion.
"Rydym yn apelio at unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau camera dashfwrdd o'r digwyddiad, i gysylltu â ni,” meddai,
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion yn yr Uned Plismona Ffyrdd gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C139596.