Miliynau o bobl ledled y DU yn derbyn neges brawf argyfwng i’w ffonau
Fe wnaeth miliynau o bobl ledled y DU dderbyn neges brawf argyfwng i’w ffônau symudol ddydd Sul.
Tua 15.00 fe wnaeth ffonau symudol a oedd wedi’u cysylltu â rhwydweithiau 4G a 5G ddirgrynu ac allyrru sŵn seiren am hyd at 10 eiliad.
Fe wnaeth defnyddwyr ffonau hefyd dderbyn neges yn egluro mai ymarfer oedd y rhybudd.
Dyma oedd ail brawf y system, ar ôl y cyntaf yn 2023.
Mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio'r system i gyhoeddi rhybuddion go iawn bum gwaith.
Derbyniodd tua 3.5 miliwn o bobl ledled Cymru a de-orllewin Lloegr rybudd yn ystod Storm Darragh fis Rhagfyr diwethaf.
Roedd rhybudd arall ym mis Ionawr yn ystod Storm Eowyn i rybuddio pobl yn yr Alban a Gogledd Iwerddon am dywydd garw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae’n bwysig cofio mai prawf yn unig yw hwn, yn union fel yr ymarferion tân rydyn ni i gyd yn eu gwneud yn ein hysgolion a’n gweithleoedd.
“Rydyn ni’n cynnal y prawf i wneud yn siŵr bod y system yn gweithio’n iawn pan fydd ei hangen arnom fwyaf, ac wedi hynny, byddwn ni’n cydweithio gyda gweithredwyr rhwydweithiau symudol i asesu perfformiad.
“Dim ond 10 eiliad y mae’r prawf yn ei gymryd, ond mae’n ein helpu i gadw’r wlad yn ddiogel 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.”
Rhybudd i ddioddefwyr cam-drin domestig
Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y rheiny sy'n cadw ffôn cudd ar gyfer ei ddefnyddio mewn argyfwng am eu bod yn wynebu cam-drin domestig.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt eu bod nhw “eisiau i bawb yng Nghymru fod yn ddiogel ac yn wybodus”.
“Er bod rhybuddion argyfwng wedi'u cynllunio i'n hamddiffyn ni i gyd, rydym yn deall y gallant achosi pryder i'r rhai mewn sefyllfaoedd agored i niwed sydd ag ail ffôn cudd er mwyn eu diogelwch,” meddai.
Er mwyn atal ffonau cudd rhag cael eu canfod, gellir diffodd rhybuddion argyfwng o flaen llaw, medden nhw.
Ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau iPhone ac Android, gellir gwneud hyn trwy chwilio am 'emergency alerts' yn y gosodiadau a diffodd 'severe alerts' ac 'extreme alerts'.
Ar gyfer mathau eraill o ffonau symudol neu dabledi, gallai'r gosodiadau hyn ymddangos o dan enwau gwahanol fel 'wireless emergency alerts' neu 'emergency broadcasts'.
Mae llwybrau cyffredin yn y gosodiadau yn cynnwys:
• Messages → Message Settings → Wireless Emergency Alerts → Alerts
• Settings → Sounds → Advanced → Emergency Broadcasts
• Settings → General Settings → Emergency Alerts
Ym mhob achos, dylai defnyddwyr ddiffodd 'severe alerts', 'extreme alerts', a 'test alerts' ar eu ffonau cudd.