Gêm griced yn codi dros £1,000 ar gyfer gofal merch ddwy oed â chlefyd prin

Gêm griced yn codi dros £1,000 ar gyfer gofal merch ddwy oed â chlefyd prin

Mae gêm griced yn Sir Gaerfyrddin wedi codi dros £1,000 ar gyfer gofal merch ddwy oed sydd â chlefyd prin.

Fe gafodd Eira Lewis ddiagnosis o glefyd prin acute necrotising encephalitis (ANE) ar ôl cael ei brysio i’r ysbyty ym mis Ebrill eleni.

Mae ANE yn glefyd niwrolegol prin, difrifol, sy'n digwydd ar ôl haint gan firws, y ffliw yn fwyaf cyffredin, ac yn arwain at lid a difrod i feinwe'r ymennydd.

Roedd cyflwr Eira mor wael fel bod y doctoriaid wedi paratoi tystysgrif marwolaeth iddi. Aed â hi i hosbis plant Tŷ Hafan ar gyfer yr hyn roedd y teulu yn tybio fyddai ei diwrnodau olaf.

Er mawr syndod i’r arbenigwyr meddygol fe wnaeth Eira oroesi ac mae’r gymuned yn yr ardal wedi tynnu at ei gilydd i drefnu llu o weithgareddau i gefnogi’r teulu.

Fe wnaeth Vips Parekh o Swyddfa Bost Capel Hendre drefnu gêm griced yn Rhydaman ddydd Sadwrn yn erbyn tafarn Pen y Brenin yn y pentref i godi arian at ofal Eira Lewis.

Swyddfa Bost Capel Hendre oedd yn fuddugol ac fe fydd yr ornest bellach yn un flynyddol am Gwpan Her Capel Hendre, medden nhw.

Dywedodd Phil Lewis, tad Eira: “Mae’r arian da ni’n trio codi yn mynd i Eira achos mae angen pethau arni, fel y chair. Mae’n cael ffisio lot a mae hwnna’n eitha’ drud.

“Achos ni’n trio cael Eira nôl cyn gymaint a da ni’n gallu cyn mis Ebrill. Ond does dim byd yn cheap.

“Diolch yn fawr i bobl sydd wedi cymryd yr amser i helpu a gwneud popeth. Mae amser pobl ddim am ddim. Mae lot o pobl yn gwneud pethau fel hyn mae lot o amser yn mynd i mewn iddo fe.”

Image
Y sgorfwrdd
Y sgôrfwrdd

Dywedodd Vips Parekh wrth Newyddion S4C cyn y gêm griced nad oedd nod o ran yr arian oedd y gymuned am ei godi ar gyfer Eira.

“Smo ni wedi gosod targed ac mae pob rhodd yn cael ei gwerthfawrogi, mawr neu fach, ond y mwyaf y gallwn ei godi, y mwyaf fydd yn mynd tuag at ei thriniaeth,” meddai.

“Mae elusennau wedi camu i mewn i roi rhywfaint o ffisiotherapi i Eira a gallwn wneud ein rhan a chefnogi'r driniaeth yna.

“Ni ishe codi ymwybyddiaeth a mwy o gefnogaeth i Eira a fydd yn cynhyrchu mwy o roddion a fydd yn mynd tuag at y teulu i'w cefnogi gyda'i thriniaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.