Palestine Action: Bron i 900 wedi eu harestio mewn protest yn Llundain

Protestwyr

Fe gafodd cyfanswm o 890 o bobl eu harestio yn ystod protest yn erbyn y gwaharddiad ar Palestine Action yn Llundain ddydd Sadwrn, meddai Heddlu’r Met.

Roedd tua 1,500 o bobl wedi cymryd rhan yn y brotest y tu allan i Senedd San Steffan.

Dywedodd Heddlu’r Met bod swyddogion wedi dioddef camdriniaeth “nad oedd modd ei oddef” gan rai o’r protestwyr.

Mynnodd y trefnwyr, y grŵp ymgyrchu Defend Our Juries, ei fod yn “brotest heddychlon”, gyda’r rhai oedd yn bresennol yn eistedd ac yn dal arwyddion.

Maen nhw wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref newydd Shabana Mahmood i ollwng y gwaharddiad “nad oes modd ei orfodi” ar Palestine Action.

Am ei fod wedi ei ddynodi yn grŵp terfysgol mae dangos cefnogaeth tuag ato’n drosedd.

 “Mae’r ffaith bod 857 allan o 1,500 wedi cael eu harestio a bod hyn wedi cymryd 11 awr, yn dangos bod y gwaharddiad ar weithredoedd Palestine Action yn wirion ac yn amhosibl ei orfodi,” medden nhw.

Image
Llun gan James Manning
Llun: James Manning / PA

Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Claire Smart bod y trais yn y brotest “wedi’i gyflawni gan grŵp o bobl, llawer ohonynt yn gwisgo masgiau i guddio eu hunaniaeth, gyda’r bwriad o greu cymaint o anhrefn â phosibl”. 

“Mae llawer o’r unigolion hynny bellach wedi cael eu harestio ac rydym wedi dechrau gorfodi cyhuddiadau,” meddai.

Llun: James Manning / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.