AS Llanelli Nia Griffith yn gadael y llywodraeth wrth i Keir Starmer ad-drefnu
Mae Aelod Seneddol Llanelli, y Fonesig Nia Griffith, wedi gadael llywodraeth y Prif Weinidog Keir Starmer wrth iddo ad-drefnu ei dîm gweinidogol.
Roedd Nia Griffith yn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig yn ogystal a bod yn Is-ysgrifennydd Seneddol dros Gydraddoldeb.
Roedd hi hefyd yn aelod o gabinet cysgodol Llafur cyn yr etholiad cyffredinol y llynedd gan wasanaethau fel cyn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru ac Ysgrifennydd Cysgodol dros Amddiffyn.
“Mae wedi bod yn fraint enfawr gwasanaethu yn y Llywodraeth Lafur, fel gweinidog Swyddfa Cymru a gweinidog cydraddoldeb,” meddai ddydd Sul.
“Fy mhrif swydd erioed fu cynrychioli fy etholwyr, a byddaf yn parhau i siarad yn egnïol ar eu rhan.”
Mae Aelod Seneddol Anna McMorrin wedi ei symud o Swyddfa’r Prif Chwip i Swyddfa Cymru.
Mae Jo Stevens yn parhau yn ei swydd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'r ad-drefnu.
"Mae Nia Griffith AS yn seneddwr mor brofiadol ac yn llais gweithgar, ymroddedig a gwych dros Gymru yn Swyddfa Cymru," meddai Jo Stevens.
"Mae hi'n chwaraewr tîm go iawn ac mae'n ddrwg iawn gen i ei gweld hi'n gadael y llywodraeth. Mae Llanelli yn ffodus iawn i'ch cael chi, Nia.
"A llongyfarchiadau mawr i Anna McMorrin sy'n ymuno â ni yn Swyddfa Cymru fel Is-ysgrifennydd Seneddol. Croeso i'r tîm, Anna."
Fe wnaeth ymddiswyddiad dirprwy brif weinidog y DU, Angela Rayner arwain at ad-drefnu y llywodraeth yn San Steffan dros y penwythnos.
Roedd ymchwiliad wedi dyfarnu ei bod wedi torri rheolau yn ymwneud â safonau gweinidogol ar ôl cyfaddef iddi beidio â thalu digon o dreth stamp ar eiddo.