Cebl wedi methu cyn gwrthdrawiad Lisbon medd adroddiad

Safle'r gwrthdrawiad yn Lisbon

Mae’r awdurdodau ym Mhortiwgal wedi dweud bod damwain tram a laddodd 16 o bobl gan gynnwys tri o Brydeinwyr wedi ei achosi gan broblem gyda chebl oedd yn cysylltu dau gerbyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 18.05 ddydd Mercher, gyda llygaid-dystion yn awgrymu fod y system frecio wedi methu, a bod y tram wedi llithro i lawr stryd serth cyn taro adeilad.

Fe gafodd 21 o bobl hefyd eu hanafu, pump yn ddifrifol, o ganlyniad i’r gwrthdrawiad.

Mewn adroddiad cychwynnol i’r gwrthdrawiad dywedodd Swyddfa Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr a Rheilffordd Portiwgal bod y dystiolaeth yn awgrymu mai cebl oedd ar fai.

Doedd y tramiau heb deithio mwy na chwe metr o’r arhosfan pan gollon nhw “y grym cydbwyso yr oedd y cebl yn ei ddarparu ar eu cyfer”.

Fe wnaeth un cerbyd ddod i stop o fewn 10 metr ond fe barhaodd y llall i lithro i lawr y bryn.

“Fe wnaeth y brêciwr oedd yn y cerbyd ddefnyddio'r brêc niwmatig a'r brêc llaw ar unwaith i geisio atal y symudiad,” meddai’r adroddiad. 

“Ni chafodd y camau hyn unrhyw effaith wrth atal na lleihau cyflymder y caban, a pharhaodd i gyflymu i lawr y llethr.”

Image
Kayleigh Smith a Will Nelson
Will Nelson a Kayleigh Smith

Teyrngedau

Ddydd Sadwrn fe gafodd teyrngedau eu rhoi i ddau o Brydain a fu farw yn y ddamwain.

Y cyfarwyddwr theatr Kayleigh Smith a'i phartner Will Nelson, darlithydd yn Ysgol Theatr Arden ym Manceinion, oedd dau o’r tri o’r DU a fu farw yn y ddamwain.

Nid yw'r trydydd dioddefwr o Brydain wedi'i enwi eto.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Heddlu Swydd Gaer, dywedodd teulu Ms Smith: “Roedd Kayleigh yn cael ei charu gan ei theulu a ffrindiau am ei hiwmor a’i ffraethineb.

“Daeth ei natur garedig a gofalgar i’r amlwg yn ei gwaith fel gweithredwr angladdau.

“Roedd hi hefyd yn gyfarwyddwr theatr talentog ac roedd newydd gwblhau gradd meistr. Maen nhw ill dau yn gadael teulu a ffrindiau sydd wedi torri eu calonnau.”

Dywedodd brawd iau Mr Nelson: “Ni all geiriau ddechrau disgrifio sut mae ein teulu a’n ffrindiau’n teimlo ar hyn o bryd ond dyma’r ymgais orau.

“Yr wythnos hon, oherwydd damwain drasig yn Lisbon, Portiwgal, fe wnaethon ni golli Will Nelson, oedd yn frawd mawr i mi ac yn frawd i bawb.

“Roedd o bob amser yn garedig, yn anhunanol ac nid yw’r byd yn teimlo’n iawn nac yn normal hebddo. 

“Roedd ac mae’n parhau i fod yn arwr i mi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.