Rhybudd melyn am dywydd stormus ar gyfer rhannau o dde Cymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd i rai ardaloedd yn y de fore ddydd Sul.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 8.00 a 12.00 y prynhawn.
Mae'r rhybudd melyn yn effeithio ar Gaerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r llefydd yma gael eu heffeithio gan lifogydd yn sgil glaw trwm a stormydd mellt a tharanau.
Dywedodd y gwasanaeth bod yna bosibilrwydd o oedi ar y ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus, gyda phosibilrwydd hefyd y gallai rhai cymunedau colli cyflenwad trydan am gyfnod.
Fe allai rhai ardaloedd weld tua 30-40mm o law yn ystod y dydd, yn ogystal â mellt a chenllysg.