Cipolwg ar unig gêm y Cymru Premier JD ddydd Sul
Caernarfon (1af) v Y Barri (7fed) | Dydd Sul – 12:30
Caernarfon sy’n parhau i osod y safon yn y Cymru Premier JD y tymor hwn, a’r Cofis yw’r unig dîm sydd heb golli’n y gynghrair eto.
Dyw’r Caneris m’ond wedi gollwng pwyntiau mewn dwy gêm hyd yma ar ôl ildio ciciau o’r smotyn dadleuol oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd a Hwlffordd (Met 2-2 Cfon, Hwl 1-1 Cfon).
Er i’r Barri sicrhau pwynt gwerthfawr gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn diwethaf, mae’r Dreigiau wedi llithro i’r hanner isaf ar ôl ennill dim ond un o’u pum gêm agoriadol.
A tydi record ddiweddar y Dreigiau ddim yn wych yn erbyn Caernarfon gan i’r Barri golli pedair o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis (ennill 1, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏➖✅✅✅➖
Y Barri: ✅➖❌➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.