Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried cau menter sy'n cyflogi staff ag anableddau

Cefndy Healthcare

Mae cyngor sir wedi cael ei feirniadu am gynlluniau i gau menter gymunedol sy'n cyflogi pobl sydd yn byw gydag anableddau.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi cynlluniau i gau Cefndy Healthcare, sy'n cyflogi 35 aelod o staff yn Y Rhyl.

Yn ôl y sefydliad, maen nhw'n cynnig cyflogaeth "ystyrlon gyda thâl da" i bobl ag anableddau meddyliol a chorfforol.

Dechreuodd y sefydliad yn 1976 dan yr enw Cefndy Enterprises, a hynny fel rhan o Gyngor Sir Clwyd ar y pryd.

Mae'r cwmni yn gweithgynhyrchu nwyddau gwahanol, ac fe gafodd cynghorwyr eu gwahodd i weithdy'r sefydliad i wylio cyflwyniad ddydd Mawrth.

Daw hyn cyn i gyfarfod cabinet y cyngor gwrdd ar 23 Medi, lle mae disgwyl penderfyniad i ddod a'r fenter i ben.

'Ddim yn hapus'

Mae rhai aelodau o'r cyngor wedi lleisio eu hanfodlonrwydd gyda'r cynlluniau i gau'r sefydliad.

Dywedodd Brian Jones, cynghorydd sir yn Y Rhyl nad yw'n hapus bod cyfarfod llawn y cyngor wedi ei ohirio er mwyn trafod y penderfyniad.

"Dydw i ddim yn hapus bod cyfarfod llawn y cyngor wedi canslo yr wythnos diwethaf yn ôl disgresiwn cadeirydd Cyngor Sir Dinbych,” meddai.

"Mae'r cyfarfod llawn nesaf y cyngor i ddigwydd ym mis Tachwedd. Mae hynny yn golygu bwlch o chwe mis ers cyfarfod llawn diwethaf y cyngor."

Ychwanegodd: “Pan rydych chi'n edrych ar draws Cyngor Sir Dinbych a’r sawl problem sy’n parhau gydag aelodau, sy’n cynnwys gwastraff, adfywio, dyfodol a Cefndy Enterprises, mae’n ymddangos bod gwrthwynebiad yn cael ei atal oherwydd bod gormod o ddadlau yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig ar fyr rybudd.

“Enghraifft syfrdanol o hynny yw Cefndy Enterprises, lle cafodd y cynghorwyr wahoddiad ddydd Mawrth, a rhoddwyd cyflwyniad iddynt am statws y mudiad.

"Dywedodd y cabinet wrth gynghorwyr fwy neu lai eu bod yn bwriadu dod i'r penderfyniad i gau'r sefydliad yn y cyfarfod ar 23 Medi.

“Mae opsiynau eraill, ond y teimlad yn yr ystafell gan aelodau’r cabinet oedd y byddan nhw’n penderfynu ei gau. Beirniadais y penderfyniad hwnnw."

'Heriol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych bod sawl ffactor wedi cael eu hystyried wrth "fonitro" sefyllfa Cefndy Healthcare.

Maen nhw'n mynnu nad oes penderfyniad wedi ei wneud hyd yma.

“O ystyried y pwysau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r cyngor, rhaid i bob gwasanaeth ystyried opsiynau i sicrhau y gallant barhau i ddarparu gwasanaethau," meddai'r cyngor.

“Er mwyn gwneud hyn, rhaid ystyried ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau. 

"Fel cyfleuster gweithgynhyrchu, mae’r farchnad fyd-eang y mae Cefndy Healthcare yn gweithredu ynddi wedi bod yn heriol yn economaidd, gyda digwyddiadau byd-eang mwy diweddar, gan gynnwys cost dur a thariffau masnach yn gwaethygu’r problemau hyn, sydd i gyd y tu hwnt i reolaeth y cyngor.

“Oherwydd y ffactorau hyn, mae’r cyngor wedi monitro sefyllfa Cefndy Healthcare yn gyson, gan gynnwys cynnal nifer o adolygiadau ffurfiol yn ystyried yr opsiynau posibl ynghylch dyfodol y cyfleuster.

“Mae trafodaethau gyda staff a rhanddeiliaid yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Mae’n bwysig pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch dyfodol y sefydliad." ychwanegodd llefarydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.