Tri o Brydain wedi marw yn y ddamwain tram yn Lisbon

Safle'r gwrthdrawiad yn Lisbon

Mae'r heddlu ym Mhortiwgal wedi cyhoeddi bod tri o ddinasyddion Prydeinig wedi marw yn y ddamwain tram yn Lisbon ddydd Mercher.

Bu farw 16 o bobl yn y digwyddiad, ac fe anafwyd 20 o bobl, gyda phum claf yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Fe ddaeth y tram oddi ar y cledrau yng nghanol y ddinas, gan arwain at ddiwrnod cenedlaethol o alaru yn y wlad ddydd Iau.

Mae’r rheilffordd ffwniciwlar yn y ddinas yn 140 oed ac yn atyniad poblogaidd i dwristiaid, ac yn ffordd gyfleus o gysylltu gwahanol rannau o'r ddinas.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 18.05 ddydd Mercher, gyda llygaid-dystion yn awgrymu fod y system frecio wedi methu, a bod y tram wedi llithro i lawr stryd serth cyn taro adeilad.

Dywedodd maer Lisbon, Carlos Moedas, ei fod yn "foment drasig i'r ddinas" wrth ymweld â'r ysbyty lle’r oedd y cleifion yn cael eu trin nos Fercher.

Mynegodd Arlywydd y wlad, Marcelo Rebelo de Sousa, ei "gydymdeimlad a'i undod â'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y drasiedi hon."

Mae’r cwmni sy’n gweithredu trafnidiaeth gyhoeddus Lisbon, Carris, wedi dweud eu bod nhw wedi cynnal gwiriadau diogelwch cyson a’u bod nhw’n ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd.

Llun: Reuters
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.