Cyhoeddi enwau sefydliadau celfyddydol fydd yn elwa o gronfa £8m

Arian CCC

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi enwau'r sefydliadau fydd yn elwa o gronfa gwerth £8 miliwn yn sgil galwad agored am geisiadau ym mis Mehefin.

Roedd 68 cais i’r gronfa, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda 40 yn cael cynnig arian i fuddsoddi yn syth.

Ymysg y lleoliadau ar draws Cymru sydd wedi derbyn arian ar gyfer prosiectau cyfalaf mae Pafiliwn y Grand, Porthcawl (£1.5m), Venue Cymru, Llandudno (£1m), Oriel Elysium yn safle siop JT Morgan gynt, yn Abertawe (£1m), Canolfan Ucheldre, Caergybi, (£429,880) a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (£400,000). 

Mae rhestr lawn o bob sefydliad sydd wedi cael arian i’w gweld ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru ddydd Gwener.

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Dangosodd ymateb y sector yr angen mawr am yr arian yma i gynnal a datblygu ein lleoliadau i greadigrwydd a chymunedau ffynnu ar hyd a lled Cymru. 

"Mae'n amlwg bod angen cynnal a gwella'r adeiladau pwysig hyn a gwella eu cynaliadwyedd amgylcheddol. Mewn rownd gystadleuol, roeddem yn falch o weld cynifer o gynlluniau cyffrous gan gynnwys rhai nad oedd modd eu hariannu y tro yma, yn anffodus."

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant: "Mae'r buddsoddiad o £8 miliwn yn dangos ein hymrwymiad cadarn i gefnogi sector y celfyddydau a diwylliant bywiog Cymru. 

"O leoliadau eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan Gelfyddydol Pontio, drwy sefydliadau rhanbarthol pwysig fel Venue Cymru, Canolfan Ucheldre yng Nghaergybi ac Oriel Elysiwm yn Abertawe, i drysorau cymunedol fel Pafiliwn y Grand Porthcawl, Sefydliad Glowyr Coed Duon a Theatr Mwldan, mae'r 40 sefydliad sydd wedi cael arian yn cynrychioli calon ddiwylliannol Cymru ledled y wlad."

Ychwanegodd Sarah Ecob, Pennaeth Gwasanaeth - Yr Economi a Diwylliant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Newyddion cyffrous iawn yw cael y gefnogaeth yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

"Bydd yr arian yn cefnogi camau cyntaf ein prosiect Dyfodol Venue Cymru ac mae'n rhan allweddol o weddill yr ariannu. 

"Bydd y gwaith sy’n deillio o grant y Cyngor yn cynllunio awditoriwm newydd gan gynnwys seddi newydd ac uwchraddio ein seilwaith technegol. 

"Bydd y prosiect yn ffordd o greu Hwb Diwylliant i adeiladu ar ein gwaith o ddod â phobl at ei gilydd, dathlu a chefnogi creadigrwydd a diogelu ein gwasanaethau am flynyddoedd lawer i ddod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.