Y nifer uchaf o danau gwyllt ar gofnod wedi digwydd eleni
Mae'r gwasanaethau tân yng Nghymru a Lloegr wedi ymateb i 996 o ddigwyddiadau tanau gwyllt hyd yma eleni, sef y nifer uchaf ar gofnod.
Ond mae nifer y diffoddwyr tân sydd yn gweithio wedi gostwng 25% ers 2008, sy'n cyfateb i tua 11,000 o aelodau criwiau llawn amser, yn ôl Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân.
Mae gwasanaethau tân wedi wynebu cynnydd o 20% yn y galw ers 2014 ac mae niferoedd y tanau gwyllt wedi codi'n sydyn eleni o ganlyniad i'r gwanwyn sych a thonnau gwres yr haf, yn ôl adroddiad gan y Cyngor.
Dywedodd cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, Phil Garrigan: “Efallai bod y misoedd oerach ar eu ffordd, ond nid yw'r argyfwng hinsawdd yn mynd i unman.
"Os nad tanau gwyllt yw'r broblem, yna mae'n lifogydd - a bydd swyddogion tân bob amser ar y rheng flaen.”
Ychwanegodd: “Mae tanau gwyllt eleni wedi ymestyn gwasanaethau tân ac achub i’r eithaf, gan glymu criwiau am ddyddiau lawer a chymryd toll ddynol go iawn ar y diffoddwyr tân sy’n rhoi eu hunain mewn perygl i’n hamddiffyn ni.
“Mae rhai gwasanaethau wedi gorfod galw am gymorth o bob cwr o’r wlad, gan godi pryderon difrifol ynghylch eu gallu i ymateb i’w holl ddyletswyddau.”
Y record flaenorol oedd 994 o danau gwyllt yn 2022, ac fe ddigwyddodd 19 ohonynt yn ystod tri mis olaf y flwyddyn honno, sy’n golygu bod disgwyl i gyfanswm 2025 fod yn uwch na 1,000.
I ddigwyddiad fod yn gymwys i gael ei ystyried yn dân gwyllt yng Nghymru a Lloegr, rhaid i'r tân orchuddio o leiaf un hectar, cynnwys fflamau sy'n fwy nag 1.5 metr o uchder, neu fod angen galw o leiaf pedwar cerbyd diffodd tân i'r lleoliad.
Gallai hefyd fod angen adnoddau i aros ar y safle am o leiaf chwe awr, neu beri bygythiad difrifol i fywyd, yr amgylchedd, eiddo a seilwaith.
Dim ond un o'r pum maen prawf sydd angen ei gyrraedd.