Rhagolwg ar gemau ddydd Sadwrn y Cymru Premier JD
Caernarfon sy’n parhau i osod y safon yn y Cymru Premier JD gyda’r Cofis wedi torri’n glir ar gopa’r gynghrair ar ôl penwythnos Gŵyl y Banc.
Ac wedi pedair gêm gynta’r tymor mae’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn eistedd yn y 4ydd safle yn dilyn eu gêm gyfartal ym Mae Colwyn brynhawn Llun.
Bydd Llanelli’n benderfynol o ennill eu pwyntiau cyntaf ers eu dyrchafiad pan fydd y Cochion yn croesawu’r Bala i Barc Stebonheath ddydd Sadwrn.
Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i’r nifer o aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27. Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair. Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r nifer syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Bae Colwyn (10fed) v Llansawel (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Bae Colwyn yn un o bedwar o glybiau sy’n dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair y tymor hwn, ond dyw hynny ddim yn adrodd y stori gyfan i'r Gwylanod.
Dyw tîm Michael Wilde m’ond wedi colli un o’u pedair gêm hyd yma, gan gipio pwyntiau gwerthfawr mewn gemau cystadleuol yn erbyn Cei Connah, Y Barri a’r Seintiau Newydd.
Mae Llansawel wedi cael dechrau cadarn i’r tymor ond roedd hi’n golled siomedig ar yr Hen Heol brynhawn Llun gyda dynion Andy Dyer yn ildio yn yr eiliadau olaf i golli 1-0 yn erbyn Hwlffordd.
Mae partneriaeth effeithiol gyffrous yn datblygu yn llinell ymosodol Llansawel gyda Ruben Davies yn gydradd brif sgoriwr y gynghrair gyda phedair gôl, a Thomas Walters hefyd wedi sgorio tair a chreu un gôl y tymor hwn.
Dyw Bae Colwyn heb sgorio mwy nag un gôl yn eu 14 gêm ddiwethaf yn yr haen uchaf ers Ionawr 2024 (Bae 2-3 Pontypridd), ond bydd y Gwylanod yn anelu i ddod â’r rhediad hwnnw i ben yn eu gornest gyntaf erioed yn erbyn Llansawel.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏➖➖❌➖
Llansawel: ͏✅➖✅❌
Llanelli (12fed) v Y Bala (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl sicrhau dyrchafiad dros yr haf, dyw Llanelli’n bendant heb gael y dechrau delfrydol ar ôl dychwelyd i’r uwch gynghrair gan golli eu pedair gêm hyd yma.
I ychwanegu halen at y briw, mae eu prif sgoriwr y tymor diwethaf, Liam Eason yn parhau i sgorio goliau di-ri yng Nghynghrair y De, wedi i’r blaenwr benderfynu arwyddo i Cambrian United ar gyfer y tymor newydd, a nhw sy’n eistedd ar frig y tabl gyda Eason yn brif sgoriwr y gynghrair gyda chwe gôl yn barod.
Hon fydd taith gynta’r Bala i Barc Stebonheath ers Rhagfyr 2018 pan enillon nhw o 7-1 gyda’r blaenwr Steven Tames yn rhwydo pedair o goliau i’r ymwelwyr o Feirionnydd.
Ond wedi dweud hynny, Y Bala sydd â’r record sgorio isaf yn y gynghrair y tymor hwn, ar ôl taro dim ond ddwywaith yn eu tair gêm agoriadol (0.67 gôl y gêm).
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌❌❌❌
Y Bala: ➖✅❌
Pen-y-bont (2il) v Cei Connah (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pen-y-bont wedi codi i’r 2il safle ar ôl penwythnos buddiol ble enillodd y Gleision yn erbyn Y Barri a Llanelli.
Mae tîm Rhys Griffiths wedi ennill tair o’u pedair gêm agoriadol gyda’r unig golled yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd – record byddai unrhyw reolwr yn y gynghrair yn ei dderbyn.
Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb sydd wedi trechu Cei Connah hyd yma hefyd wedi i’r Nomadiaid frwydro ‘nôl i ennill 3-2 yn narbi Sir y Fflint brynhawn Llun.
Ar ôl mynd am gyfnod o saith gêm heb guro Cei Connah, fe lwyddodd Pen-y-bont i ennill eu dwy gornest yn erbyn y Nomadiaid y tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅❌✅✅
Cei Connah: ➖❌✅
Y Barri (5ed) v Y Seintiau Newydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n benwythnos o goliau hwyr a dramatig i’r Barri yn dechrau gyda’r golled yn erbyn Pen-y-bont nos Wener ble gwblhaodd Noah Daley ei hatric wedi 94 o funudau ar Barc Jenner (Barr 2-3 Pen), ond y Dreigiau oedd yn dathlu’n hwyr ddydd Llun wrth i Robbie Willmott rwydo wedi 92 o funudau i gipio pwynt yn erbyn Met Caerdydd (Met 1-1 Barr).
Ac roedd hi’n brynhawn rhwystredig arall i Craig Harrison ddydd Llun gyda’i garfan broffesiynol yn gorfod bodloni ar bwynt yn erbyn Bae Colwyn wedi i gyn-chwaraewr y Seintiau, Aeron Edwards sgorio’r gôl hollbwysig i’r Gwylanod (Bae 1-1 YSN).
Un sydd wedi serennu i’r Seintiau ar ddechrau’r tymor yw Jordan Williams sydd wedi sgorio tair gôl yn y ddwy gêm ddiwethaf gan ddod a’i gyfanswm i 50 o goliau cynghrair i’r clwb mewn dim ond 92 ymddangosiad.
Dyw’r Seintiau Newydd heb golli mewn 13 o gemau’n erbyn Y Barri (ennill 11, cyfartal 2), a dyw’r Dreigiau heb ennill gartref yn erbyn cewri Croesoswallt ers bron i chwarter canrif.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅➖❌➖
Y Seintiau Newydd: ❌✅✅➖
Y Fflint (11eg) v Met Caerdydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar Gae-y-Castell bydd Y Fflint a Met Caerdydd yn llygadu eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair y tymor hwn.
Mae’r Fflint wedi mynd ar y blaen yn eu dwy gêm ddiwethaf, ond wedi gorffen y ddwy ornest yn waglaw (Ffl 2-5 Cfon, Cei 3-2 Ffl).
Efallai nad yw Met Caerdydd wedi ennill hyd yma, ond y myfyrwyr a Chaernarfon yw’r unig ddau dîm sydd heb golli gan i fechgyn Ryan Jenkins gael pedair gêm gyfartal yn olynol ar ddechrau’r tymor.
Mae Met Caerdydd ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn y Fflint, a’r myfyrwyr enillodd y ddwy ornest rhwng y clybiau’r tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ➖❌❌
Met Caerdydd: ͏➖➖➖➖
Hwlffordd (7fed) v Caernarfon (1af) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Mae’r Caneris yn hedfan ar frig y gynghrair ar ôl rhediad arbennig o dair buddugoliaeth yn olynol gan sgorio 13 o goliau’n y gemau rheiny.
Adam Davies yw’r enw ar frig y siartiau ystadegau, yn gydradd brif sgoriwr y gynghrair (4 gôl), ond hefyd wedi creu tair gôl, sy’n dod â’i gyfanswm o ran cyfraniad goliau i saith.
Wedi dechrau digon rhydlyd fe hawliodd Hwlffordd eu triphwynt cyntaf ddydd Llun pan beniodd Alaric Jones unig gôl y gêm yn yr eiliadau olaf yn erbyn Llansawel.
Mae Hwlffordd ar rediad gwych o wyth gêm heb golli yn erbyn Caernarfon gyda’r Adar Gleision yn trechu’r Cofis o 3-1 yn y frwydr ddiwethaf rhwng y clybiau yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌➖✅
Caernarfon: ͏➖✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.