
Gobeithio dychwelyd i Gymru i osgoi aflonyddu trawsffobig
"O'r diwedd dwi'n teimlo'n ddiogel yng Nghymru ac mewn cymuned newydd.. ond mae rhaid i fi ddychwelyd i rywle lle nad ydw i'n teimlo'n ddiogel a lle dwi ddim yn perthyn."
Yn ystod eu bywyd o ddydd i ddydd yn Ipoh, Malaysia mae Jien, sydd ddim eisiau datgelu eu henw llawn am resymau diogelwch, yn gorfod cuddio pwy ydyn nhw go iawn.
Mae'r unigolyn 27 oed yn drawsryweddol ac yn wynebu sawl her yn eu gwlad enedigol wrth i bobl traws yn y wlad gael eu targedu gan y llywodraeth.
"Pan dwi ym Malaysia dwi gorfod cuddio pwy ydw i go iawn... dwi eisiau dychwelyd i Gymru, fy nghartref newydd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae bod yn traws yn eithaf anodd ym Malaysia.
"Mae sawl aelod o'r gymuned yn byw bywydau tawel ac yn cadw'n ddistaw fel nad ydyn nhw'n cael eu targedu, dydych chi methu mynd yn gyhoeddus.
"Un digwyddiad diweddar dwi'n gwybod am yw menyw traws yn cael ei harestio am posio fel menyw ac roedd rhaid iddi dalu dirwy o £800 neu gael ei charcharu mewn carchar i ddynion.
"Mae bod yn berson traws femme (dyn i fenyw), byddwch yn cael eich targedu, eich molestio a'ch defnyddio ar gyfer gweithgaredd rywiol yn y carchar."

Malaysia yw'r ail wlad waethaf yn y byd i fyw ynddi fel unigolyn traws yn ôl y Global Trans Rights Index.
Mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn y wlad a'r gosb eithaf yw 20 mlynedd yn y carchar.
Yn ddyddiol mae aelodau'r gymuned LHDTC+ yn wynebu bygythiadau ac aflonyddu, ac mae Jien yn cuddio eu hunaniaeth go iawn er mwyn ceisio osgoi unrhyw gamdriniaeth.
"Pob tro dwi'n dychwelyd i Malaysia mae rhaid i fi dawelu, cymryd yr hunaniaeth cwiar 'na i ffwrdd," meddai.
"Ma' rhaid i fi wisgo mwgwd a pherfformio sioe nad ydw i'n cytuno gyda hi. Dwi'n ceisio defnyddio'r toiled anabl pan dwi'n gallu, dydw i ddim eisiau defnyddio lle i bobl anabl ond dyna'r unig le dwi'n teimlo'n ddiogel."
'Teimlo'n gartrefol'
Symudodd Jien i Gaerdydd ym mis Medi 2022 ar fisa myfyriwr wrth iddyn nhw astudio gradd yn y Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru.
Yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol roedden nhw wedi gwneud sawl ffrind newydd a phenderfynu newid eu fisa i un myfyriwr ôl-raddedig er mwyn parhau yng Nghymru.
Yn ystod y cyfnod hwnnw fe weithiodd Jien mewn sawl swydd, gan gynnwys yn adran geneteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
"Roeddwn i'n teimlo'n hynod gartrefol yng Nghaerdydd," dywedodd.
"Roedd adegau lle nad oeddwn yn gallu cefnogi fy hun yn ariannol, ond roedd y gymuned wedi fy nghefnogi trwy'r cyfnod cyfan.
"Mae'r gymuned yn teimlo fel adref, dyw e ddim fel unrhyw beth dwi wedi profi ym Malaysia."
Heriau
Bu'n rhaid i Jien ddychwelyd i Malaysia ym mis Gorffennaf eleni gan bod eu fisa wedi dod i ben.
Maen nhw'n ysu i ddychwelyd i Gymru, ond mae costau fisa a hediadau yn cyrraedd bron i £10,000, medden nhw.
Bydd angen i Jien ddychwelyd ar fisa myfyriwr ac mae ganddyn nhw gynnig i astudio gradd meistr yng Nghaerdydd.
Pe bai nhw eisiau dychwelyd ar fisa i fyw yma'n barhaol, bydd angen i'w swydd gyrraedd trothwy cyflog Llywodraeth y DU ar gyfer fisa gweithiwr medrus, sef £38,700.
Er mwyn ceisio helpu Jien symud yn ôl i Gaerdydd mae un o'u ffrindiau pennaf, Jia Wei Lee wedi trefnu ymgyrch codi arian sydd wedi codi bron i £9,000 hyd yma.

Roedd Jia Wei Lee, sydd yn 29 oed a hefyd o Malaysia wedi cyfarfod â Jien ar ôl iddo chwilio am bobl ar gyfer prosiect ffilmio.
Fel Jien, mae Jia Wei wedi dioddef rhagfarn ar sail ei rywedd, a hynny gan bobl o Malaysia yng Nghaerdydd, meddai.
"Danfonodd Jien neges i mi, ac fel person traws roedd yn deimlad hollol wych gwybod bod person arall traws o Malaysia," meddai wrth Newyddion S4C.
"Hyd yn oed o fewn y gymdeithas Malaysiaidd yn y brifysgol, dydyn ni ddim yn gallu trafod bod yn cwiar neu'n draws.
"Cefais fy ngwrthod gan ddau berson o Malaysia tra'n edrych am lety yng Nghaerdydd oherwydd nad oedden nhw eisiau person hoyw yn byw yn eu tŷ."
Gyda'i gilydd mae Jia Wei a Jien wedi sefydlu Draig Fest, sef dathliad Blwyddyn Newydd Tseiniaidd gan y gymuned cwiar Gorllewin Asia yng Nghymru.
Pe bai Jien yn gallu dychwelyd i Gaerdydd, fe fyddan nhw'n teimlo "llawer mwy diogel" a ddim yn gorfod cuddio pwy ydan nhw go iawn, medden nhw.
"Byddai dychwelyd i Gymru fel dod yn ôl adref, mae e fel cartref oddi cartref," meddai.
"Mae'n gartref dwi wedi darganfod, fe fyddai'n teimlo llawer mwy diogel yn y gymuned yma a gyda'r pobl dwi'n treulio amser â nhw.
"Dwi'n gallu bod yn fi fy hun, dyma le mae fy nghymuned a fy mhobl.
"Hoffwn i aros yng Nghymru am byth, mae fy ffrindiau yn gwneud bob dim i wneud i mi deimlo'n ddiogel a dwi erioed wedi profi hynny tu hwnt i Gymru."