
'Blwyddyn hanesyddol' wrth i 'genhedlaeth Covid' dderbyn canlyniadau TGAU
Mae hi'n "flwyddyn hanesyddol" ym myd addysg wrth i "genhedlaeth Covid-19" dderbyn eu canlyniadau TGAU, meddai cynghorydd gyrfa.
Bydd disgyblion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a ddechreuodd yr ysgol uwchradd yn ystod cyfnod y pandemig yn derbyn eu canlyniadau TGAU ddydd Iau.
Ar drothwy'r diwrnod mawr, dywedodd Emma Williams o Gyrfa Cymru bod angen cofio am yr amgylchiadau yma wrth i'r disgyblion ystyried eu camau nesaf.
"Maen nhw’n genhedlaeth hanesyddol o ddysgwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau mewn sefyllfa fyd eang 'da ni erioed 'di weld o’r blaen a gobeithio’n gweld byth eto – a 'da ni angen bod yn ymwybodol iawn o hynny," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae’r byd wedi newid, mae’r ffordd 'da ni’n gallu dewis dysgu a datblygu sgiliau yn fwy eang nag erioed.
"Mae’r farchnad gwaith a’r gweithle wedi newid ers hynny a sut 'da ni’n gallu ac eisiau gweithio a dysgu wedi newid.
"Felly, mae ‘na ddrysau yn agor yn bob man."
'Byd newydd'
Yn ôl Ms Williams, sy'n rheolwr tîm Cymru'n Gweithio yng Ngheredigion, mae'r disgyblion yn mynd i "fyd newydd efo lot o opsiynau".
"Mae 'na nifer o lwybrau gwahanol i fewn i waith ac addysg bellach, pethau fel prentisiaethau, gwirfoddoli, dechrau gweithio, neu dechrau busnes," meddai.

"Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg, hyfforddiant neu ar brentisiaeth, neu i ddod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig."
Ychwanegodd: "'Da ni yma i helpu chi ar y llwybr sy’n iawn i chi, achos mae pawb yn wahanol."
Un disgybl sy'n gobeithio mynd ymlaen i addysg bellach ydi Joseff, 16 oed o Ben Llŷn.
Mae'n bwriadu mynd i Goleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli i astudio cwrs BTEC Chwaraeon a Bioleg Safon Uwch.

"Dw i wastad 'di bod yn berson reit sporty a wastad 'di bod isho neud wbath efo chwaraeon, felly mae 'di bod yn buildio fyny ers few years," meddai.
"Dw i'n gobeithio mynd i Brifysgol Bath neu Brifysgol Metropolitan Caerdydd a dw i 'di baseio be' dw i’n neud yn y coleg ar drio cael mewn i brifysgol, felly dw i wedi trio edrych 'mlaen at y dyfodol achos fyswn i'n licio gweithio efo timau chwaraeon.
"Ond mae 'na gymaint o bethau fyswn i'n gallu neud – nutritionist, PT, physiotherapist, analyst."
Bydd angen pum gradd C i neud y cwrs BTEC, ac A yn Bioleg i astudio'r pwnc yn Safon Uwch.
'Mwynhau bod tu allan'
Mae Catrin, 16 oed o'r Bala, yn gobeithio cael astudio cwrs Lefel 3 mewn Peirianwaith Amaethyddol yng Ngholeg Glynllifon.
"Mae gen i ffarm yn ochra Bala, dw i’n trydydd neu’n bedwaredd genhedlaeth, gyda gwartheg bîff, defaid a cobiau Cymreig," meddai.
"Yn y dyfodol dw i’n gobeithio cymryd drosodd y ffarm a gallu bod yn mecanwraig yn trwsio adra a mewn ffermydd gwahanol."

Fe aeth ymlaen i ddweud y byddai'r cwrs yn rhoi'r cyfle iddi ddysgu sgiliau newydd wrth gael profiad ymarferol.
"Mae’n gwrs dwy flynedd ond mae’r flwyddyn cyntaf yn cynnwys gweithio ar y ffarm hefyd efo anifeiliaid, cnydau a pethe gwahanol," meddai.
"So 'da ni’n cael dysgu am fywyd ffarmio hefyd yn hytrach na jyst yr ochr peirianneg – dw i’n eneth sy’n mwynhau bod tu allan ar y ffarm, efo’r ceffylau, efo’r anifeiliaid ac yn mwynhau bod efo’r peiriannau."
Er mwyn cael lle ar y cwrs, bydd Catrin angen pum gradd C, gan gynnwys mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg.
Mae hi'n teimlo’n ffyddiog y bydd hi'n cael y graddau, ond os ddim mae hi'n bwriadu mynd i weithio.
Gall disgyblion drefnu apwyntiad â gwasanaeth Cymru'n Gweithio ar wefan Gyrfa Cymru.