Cyhuddo Cyngor y Celfyddydau o 'danseilio'r' iaith Gymraeg

Cyhuddo Cyngor y Celfyddydau o 'danseilio'r' iaith Gymraeg

Newyddion S4C

Mae 'na bryderon wedi codi ar ôl i Gyngor Celfyddydau Cymru hysbysebu swydd flaenllaw fydd yn gyfrifol am y Gymraeg, er na fydd angen i’r unigolyn fedru siarad yr iaith.

Fe all Newyddion S4C ddatgelu bod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac undeb Unite - sy’n cynrychioli staff - yn bryderus nad yw’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rôl ‘Cyfarwyddwr i Ddatblygu’r Celfyddydau’.

Mae Archdderwydd yr Orsedd Myrddin ap Dafydd wedi cyhuddo Cyngor y Celfyddydau o “danseilio a thanbrisio” yr iaith.

Ond mae’r corff yn dweud eu bod yn chwilio am rywun sy’n “angerddol” dros y Gymraeg

Bydd y cyfarwyddwr yn gyfrifol am hybu’r iaith yn y sector celfyddydau ac mae’n un o brif swyddi’r sefydliad.

Bydd Sian Thomas yn olynu Nick Capaldi fel prif weithredwr y Cyngor Celfyddydau ddiwedd yr haf.

Yn wreiddiol, roedd y swydd ddisgrifiad yn dweud bod rhuglder yn y Gymraeg yn “ddymunol, er nad yn hanfodol”.

Bellach, mae’n hanfodol cael “ymwybyddiaeth ymarferol da” o’r Gymraeg a chael ymrwymiad i ddysgu’r iaith yn rhugl o fewn “llinell amser rhesymol” sef 12 mis.

'Ffwlbri noeth ydi meddwl hynny'

Mae Cyngor yr Eisteddfod yn poeni am y sefyllfa. Mewn llythyr at Gyngor y Celfyddydau a Gweinidog y Gymraeg Jeremy Miles, maen nhw’n “codi pryderon” nad oes rhaid i’r rhaid i’r cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am bolisi iaith a strategaeth yr iaith allu siarad Cymraeg.

Mewn llythyr mewnol at Gadeirydd ac aelodau o gyngor Cyngor y Celfyddydau, mae undeb Unite hefyd yn “datgan ein siom” nad ydi’r sefydliad yn meddwl fod y Gymraeg yn hanfodol i “unrhyw un o’i uwch swyddi”.

Ychwanegodd: “Pwysleisiwn ei fod yn bwysig gwrando ar lais cynrychiolwyr staff Cyngor Celfyddydau Cymru y tro hwn, sydd wedi eu siomi’n arw iawn.”

Dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd : “Maen nhw’n meddwl y bydda swyddog datblygu sydd ddim yn medru siarad Cymraeg, sydd ddim yn medru asesu’r perfformiadau’ a safon deialog, ‘sgwennu, theatr ac ati fod rhywun felly yn medru datblygu'r celfyddydau yng Nghymru.

“Wel, ffwlbri noeth ydi meddwl hynny. Mae’r busnes yma sy’n cael ei gyflwyno o hyd ydi ‘da ni’n chwilio am y person gorau i’r job. Yn yr achos yma fedrwch chi ddim gwneud y job os na sgyno chi Gymraeg."

Rhybuddiodd hefyd: “Wrth reswm bod gweld cyrff mawr, pwerus fel Cyngor Celfyddydau Cymru yn tanseilio a thanbrisio’r Gymraeg fel hyn, mae o’n cael effaith hir dymor."

'Da ni’n hynod freintiedig i gael cyswllt dyddiol gyda Chymry Cymraeg'

Pwysleisiodd Gweinidog y Gymraeg mai “penderfyniad gweithredol i Gyngor y Celfyddydau ydi hwn," nid i Lywodraeth Cymru.

“Rwy’n falch o weld bod y newid wedi ei wneud i’r disgrifiad o’r swydd i adlewyrchu fod gallu yn y Gymraeg yn bwysig a bod gallu yn y Gymraeg yn bwysig a bod galw ar y person yma i fod yn rhugl o fewn blwyddyn," meddai Jeremy Miles.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros ddiwylliant a'r Celfyddydau, Heledd Fychan AS: “Er fy mod yn cymeradwyo’r anogaeth i’r person fydd wedi eu penodi ddysgu Cymraeg, mae gennyf bryderon nad yw Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gwneud y Gymraeg yn ‘hanfodol’ fel gofyniad ar gyfer y rôl Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau.”

Mae angen mwy na "ymwybyddiaeth ymarferol", meddai. “Mae angen rhywun sy’n deall hanfodion y Gymraeg, a’r ffordd y mae'n siapio ac yn dylanwadu ar y celfyddydau yng Nghymru. Mawr obeithiaf y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn ystyried hyn wrth benodi, os ydynt o ddifrif ynghylch cefnogi twf y Gymraeg drwy eu gwaith.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor y Celfyddydau : “Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwilio am rywun sy’n angerddol dros yr iaith Gymraeg i ddod i weithio gyda ni.  Da ni’n hynod freintiedig fel cwmni i gael cyswllt dyddiol gyda Chymry Cymraeg creadigol a thalentog ac rydym yn hollol hyderus y bydd llawer o’r rhain yn ymgeisio am y swydd hon.

“Mae rhai o’n cydweithwyr ar ddechrau eu taith yn dysgu’r iaith, eraill yn siaradwyr iaith gyntaf rhugl; bydd cyfle iddynt oll ymgeisio am y swydd yma."