Newyddion S4C

Cyngor Celfyddydau Cymru yn penodi Prif Weithredwr newydd

10/06/2021
NS4C

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penodi Sian Tomos fel Prif Weithredwr newydd. 

Fe fydd hi'n olynu Nick Capaldi, a gyhoeddodd ei fod yn gadael y swydd ym mis Rhagfyr 2020. 

Fe ymunodd â'r Cyngor pan gafodd ei sefydlu yn wreiddiol, ac roedd hi'n Gyfarwyddwr Rhanbarthol y Gogledd am dros ddeng mlynedd. 

Ar hyn o bryd, mae Sian Tomos yn Gyfarwyddwr y Cyngor ac yn gyfrifol am Bortffolio Celfyddydol Cymru, y Celfyddydau ac Iechyd, Llywodraeth Leol, Partneriaethau Cyhoeddus, y Gymraeg, Yr Amgylchedd Cymunedol a'r Diwydiannau Creadigol. 

Dywedodd Phil George, Cadeirydd y Cyngor fod gan Ms Tomos "angerdd dros ddemocratiaeth ddiwylliannol a thros Gymru".

"Dwi wrth fy modd mai Sian fydd ein Prif Weithredwr newydd. Roedd pob ymgeisydd yn dda, ond gwnaeth Sian argraff ar y panel gyda'i gweledigaeth, ei chynhesrwydd, ei dealltwriaeth o gydweithiol a'i hymrwymiad i hygyrchedd i'r celfyddydau," dywedodd. 

"Mae ganddi angerdd dros ddemocratiaeth ddiwylliannol a thros Gymru o gymunedau amrywiol sy’n ymgysylltu â'r celfyddydau. Bydd ei phrofiad a'i hanes o gyflawni yn gaffaeliad iddi arwain y Cyngor ac eiriol dros y sector. Bydd yn ein llywio ar hyd y daith at Gymru decach a chynhwysol.

"Hoffwn ddiolch i Nick Capaldi am ei gyfraniad gwych at gelfyddydau Cymru dros y blynyddoedd. Defnyddiai arian cyhoeddus yn ddarbodus i greu amgylchedd iach i'r celfyddydau ffynnu ac arweiniai’n glir yn ystod y pandemig."

Cafodd swydd y prif weithredwr ei hysbysebu gyda chyflog o £101,830, gyda bonws blynyddol ychwanegol ar ddisgresiwn Llywodraeth Cymru.

Bydd Sian Tomos yn dechrau ei swydd newydd yn mis Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.