Greta Siôn yn ennill Medal y Dramodydd yn y Brifwyl
Greta Siôn o Waelod-y-garth, Caerdydd, sydd wedi ennill Medal y Dramodydd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Iau.
Presennol yw’r ddrama lwyfan gyflawn gyntaf iddi ei hysgrifennu.
Bu Greta Siôn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr cyn mynd ymlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Lerpwl.
Tra yno, bu’n llywydd ar y gymdeithas ddrama, a bu’n rhan o sawl cynhyrchiad, gan gynnwys criw sgetsys comedi a berfformiai’n flynyddol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.
Ar ôl graddio, aeth Greta ymlaen i weithio fel rhedwr ar y gyfres ddrama, Rownd a Rownd, am ddwy flynedd, lle cafodd y cyfle i ysgrifennu’r gyfres ddigidol, Copsan, fel rhan o gynllun mentora.
Trefn newydd
Cafodd trefn newydd ei gosod mewn lle eleni ar gyfer y wobr, ac mae'n un sydd wedi’i datblygu ers cyn Eisteddfod 2024 yn ôl swyddogion yr ŵyl.
Y llynedd, er mawr syndod a siom i lawer, fe gafodd Y Fedal Ddrama ei hatal, ac mae'r dadlau am y penderfyniad hwnnw wedi mudferwi fyth ers hynny.
Bwriad y penderfyniad ar y pryd oedd "gwarchod pawb a oedd yn ymwneud â’r gystadleuaeth" meddai'r Eisteddfod.
Ar gyfer y wobr ar ei newydd wedd, fe gafwyd 20 darn o waith gan ymgeiswyr eleni.
Y dasg oedd cyflwyno naill ai braslun o hyd at 2500 o eiriau, yn cynnwys amlinelliad stori - dechrau, canol, diwedd - lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn yn ogystal â enghraifft o 3 golygfa wedi eu deialogi; neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm o gwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru, yn cynnig pecyn cynhwysfawr wedi'i deilwra i’r dramodydd buddugol i ddatblygu eu gwaith.
Mae’r wobr yn gomisiwn i ddatblygu sgript gyda’r nod o gynhyrchu darn gwreiddiol o waith ar gyfer y theatr.
Ysgrifennu i deledu
Yn 2024, fe dderbyniodd Greta Siôn radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Rhydychen, ac erbyn hyn, mae’n ysgrifennu ar gyfer cyfresi sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd fel awdur llawrydd.
Mae’n gwerthfawrogi’r ddau gynhyrchiad yn arw am eu cyngor parhaol, a’r fraint o gael cydweithio gydag awduron a thimoedd golygyddol profiadol sydd wedi dysgu cymaint iddi.
Mae Greta hefyd yn ddiolchgar i’w theulu oll am eu cefnogaeth.
Roedd y panel yn chwilio am ddramodydd sy’n creu gwaith trawiadol, cyffrous ac sy’n herio dychymyg a meddylfryd cynulleidfa.
Yn ychwanegol i'r wobr, sydd yn gomisiwn i ddatblygu sgript, fe gynigir cyfleoedd gan y Consortiwm ehangach i gynnwys:
- Cyfnod o gysgodi;
- Cyfleoedd i gwrdd â’r tîm;
- Gwahoddiadau i rwydweithio;
- Cyngor gyrfaol;
- Tocynnau braint i weld cynyrchiadau penodol.