Ymgyrch codi arian i deulu brawd a chwaer o Brydain fu farw ar wyliau yn Sbaen
Mae ymgyrch codi arian i frawd a chwaer 11 ac 13 oed o Brydain fu farw tra ar wyliau yn Sbaen wedi cyrraedd dros £20,000.
Bu farw Ameiya Del Brocco a Ricardo Junior Del Brocco yn y môr oddi ar arfordir gogledd ddwyrain Sbaen yn Salou nos Fawrth.
Roedd y ddau, oedd yn cael eu hadnabod fel Maya a Jubs, ar wyliau gyda'u teulu o Birmingham yn yr ardal.
Mae ymgyrch codi arian ar gyfer y teulu wedi cyrraedd £20,000.
'Torri eu calonnau'
Wrth roi teyrnged i'r brawd a chwaer, dywedodd trefnydd yr ymgyrch codi arian bod "y boen y mae'r teulu'n ei deimlo yn anghredadwy."
"Dau blentyn hardd, disglair, a chariadus iawn, wedi'u cymryd oddi wrthym yn rhy gynnar.
"Roedd Maya yn ddeallus, yn feddylgar, ac yn tyfu'n fenyw ifanc gref. Roedd Ricardo Junior yn chwareus, yn garedig, ac yn gwenu bob amser.
"Roedd y ddau wedi dod â chymaint o gariad, chwerthin ac egni i fywydau pawb o'u cwmpas. Mae eu habsenoldeb wedi gadael tawelwch annioddefol nid yn unig i'w rhieni, ond i'w teulu cyfan, a oedd yn anhygoel o agos.
"Mae eu brodyr a chwiorydd, cefndryd, modrybedd, ewythrod, neiniau a theidiau, a ffrindiau agos i gyd wedi'u llorio gan y golled hon. Roedd Maya a Jubs wedi'u hamgylchynu gan deulu a oedd yn eu haddoli, ac sydd bellach yn ceisio gwneud synnwyr o fywyd hebddyn nhw."
Roedd yr heddlu lleol, y gwasanaethau meddygol a’r gwasanaeth tân wedi ymateb i’r digwyddiad nos Fawrth, tra bod tîm o seicolegwyr hefyd yno i gynorthwyo teulu'r plant.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn cefnogi teulu dau o blant Prydeinig sydd wedi marw yn Sbaen ac rydym mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol.”