Louis Rees-Zammit i ddychwelyd i chwarae rygbi
Mae Louis Rees-Zammit wedi dweud y bydd yn gadael yr NFL er mwyn dychwelyd i chwarae rygbi.
Daw ei benderfyniad 18 mis wedi iddo adael y gamp er mwyn "mynd ar ôl her newydd" yn y gynghrair bêl-droed Americanaidd.
Treuliodd y Cymro 24 oed cyfnodau gyda'r Kansas City Chiefs a'r Jacksonville Jaguars, ond ni chwaraeodd unrhyw gemau yn ystod y tymor arferol i'r clybiau.
Mewn datganiad ar ei gyfrif Instagram, dywedodd Zammit: "Mae gen i gyhoeddiad cyffrous i'w wneud. Dwi wedi penderfynu gadael yr NFL a dychwelyd i rygbi.
"Mae'r NFL wedi bod yn brofiad gwych, ond mae'n amser i ddychwelyd adref.
"Dwi wedi penderfynu mai nawr yw'r amser gorau i wneud y penderfyniad hwn a rhoi cyfle i mi osod bob dim yn ei le ar gyfer tymor nesaf.
"Un peth yn unig sydd ar fy meddwl, sef dychwelyd i rygbi a gwneud yr hyn dwi'n ei wneud orau.
"Fe fydd mwy o newyddion yn fuan, ond am y tro, welai chi cyn hir cefnogwyr rygbi."
Inline Tweet: https://twitter.com/LouisReesZammit/status/1951051038712021065
Oriau cyn cyhoeddiad carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2024 cyhoeddodd Rees-Zammit y byddai'n ymuno â rhaglen Llwybr Chwaraewr Rhyngwladol (IPP) er mwyn ceisio ennill lle ar restr yr NFL yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd ei arwyddo gan bencampwyr y gamp, y Kansas City Chiefs ond ni chafodd ei gynnwys yn y garfan wedi gemau rhagbrofol tymor 2024.
Ymunodd â'r Jacksonville Jaguars, lle treuliodd y tymor cyfan y llynedd yn rhan o'u carfan ymarfer.
Ni chwaraeodd un o'u gemau yn ystod y tymor, cyn gadael ar ddiwedd 2024.
Ond yn fuan roedd y Cymro wedi ail-ymuno â'r Jaguars er na fyddai'n chwarae unrhyw funudau ar y cae unwaith eto.
Pan adawodd Zammit rygbi, dywedodd "nad yw hyn o reidrwydd yn golygu fy mod yn ymddeol o rygbi, ond yn ystod y cyfnod yma yn fy mywyd, dwi’n edrych ymlaen at gael mentro i mewn i her unigryw sydd gyda’r potensial i amrywio fy set sgiliau."
Chwaraeodd 32 o gemau dros Gymru cyn gadael rygbi, ac roedd yn asgellwr Caerloyw yn y Gallaghaer Premiership.