
'Ma'n grêt i'r dref': Capel yn Aberteifi bellach yn nwylo'r gymuned
Mae'r ffaith fod Capel Y Tabernacl yn Aberteifi bellach yn nwylo'r gymuned yn gyfle i "greu rhywbeth unigryw i Gymru yn y dref" yn ôl un o gyfarwyddwyr yr ymgyrch.
Mae'r capel yn ogystal â'r adeiladau cysylltiedig bellach ym mherchnogaeth Hwb Aberteifi, gyda chwmni 4CG Cymru a Chymdeithas Aberteifi yn cydlynu'r ymgyrch.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, un o gyfarwyddwyr cwmni 4CG a Hwb Aberteifi, wrth Newyddion S4C: "Hen Gapel yw e yng nghanol Aberteifi wedi bod yna ers canrifoedd ond yn anffodus, yn y pum mlynedd diwetha, wedd y gynulleidfa yn lleihau a roedd rhaid ei gau yn y diwedd.
"Aberteifi yw ble gath yr Eisteddfod Genedlaethol ei eni yn 1176 yng Nghastell Aberteifi, wedd ni'n meddwl y gallen ni greu ryw fath o ganolfan lenyddiaeth am Aberteifi.
"Oedden ni'n meddwl fod y Tabernacl yn lleoliad eitha addas, ma' fe'n adeilad eitha crand a digon o le ynddo fe felly 'na pam oedden ni'n meddwl ewn ni amdani wedyn 'da'r Tabernacl."

Fe gafodd y nod o godi £150,000 ei osod ym mis Mawrth eleni, ac fe wnaeth yr ymgyrch lwyddo o fewn mis yn unig i gyrraedd y targed, gyda dros 100 o fuddsoddwyr.
Derbyniodd y gymuned yr allweddi yr wythnos diwethaf, gyda'r drysau yn cael eu hagor ar unwaith gan y Parchedig Llunos Gordon.
Ychwanegodd Mr Davies: "Ma' fe'n adeilad go fawr, reit yng nghanol dref Aberteifi, ma' fe yn wych i edrych arno a bydd e'n peth dda i gael adeilad mor grand nôl mewn defnydd addas, creu gofod creadigol ar gyfer y dref...falle gewn ni pobl i ddysgu shwt i farddoni, cystadleuaeth farddoniaeth, celf hefyd - gofod creadigol ni'n gobeithio fydd yn digwydd.
"Ni wedi cael allweddi nawr so mynd ati nawr i ddechrau ar y gwaith trwsio sydd ei angen yn brydlon ar yr adeilad sydd 'di bod yn segur am yr holl flynyddoedd 'ma."

Mae Mr Davies yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y gymuned wrth wireddu y cynllun.
"Arbennig o falch a ma' fe mor dda bod pobl Aberteifi a'r cylch yn cefnogi a credu mewn beth ni'n trial neud gyda'r adeilad," meddai.
"Ma'n grêt i'r dref a ma'n grêt bod gymaint o gefnogaeth wedi bod a bod pobl, lot ohonyn nhw yn arfer mynd neu gyda ryw fath o berthynas gyda'r Tabernacl, wedi cyfrannu tuag at yr ymgyrch gyda Hwb Aberteifi.
"Ma' pobl wir wedi credu mewn syniad yn nhref Aberteifi, tref enedigol yr Eisteddfod Genedlaethol, gallu cydweithio gyda'r Castell (Aberteifi), gyda pobl creadigol a chreu rhywbeth unigryw i Gymru yma yn Aberteifi."
Roedd elusen Planed, sydd wedi ei lleoli yng ngorllewin Cymru, yn gyfrifol am gynghori a chefnogi gwirfoddolwyr gyda Chapel y Tabernacl ar werthiant yr adeilad i'r gymuned.
Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen, Iwan Thomas, wrth Newyddion S4C: "Mae Planed o hyd yn barod i gefnogi cymunedau gydag opsiynau hyfyw ar gyfer asedau lleol allweddol, ac i sicrhau pwrpas newydd ar gyfer eu defnydd, tra'n amddiffyn y seilwaith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."