Sir Gâr: Argymell adeiladu ysgol newydd i 150 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae yr aelod cabinet dros addysg ar Gyngor Sir Gâr wedi dweud y bydd yn argymell adeilad ysgol newydd i 150 yn hytrach na 250 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn y sir.
Mae lle i 75 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Heol Goffa, ond mae dros 120 yno ar hyn o bryd, ac mae rhieni ac eraill wedi bod yn rhan o ymgyrch hir er mwyn sicrhau ysgol newydd.
Roedd y cabinet eisoes wedi cytuno fis diwethaf i edrych ar ddau opsiwn ar gyfer dyfodol Ysgol Heol Goffa Llanelli - un yn ysgol 150 o ddisgyblion ac un arall yn ysgol ar gyfer 250 o ddisgyblion.
Mae’r Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg, bellach wedi dweud ei fod am argymell yr opsiwn cyntaf.
Dywedodd y byddai yn golygu adeiladu ysgol newydd mewn amserlen fyrrach na'r opsiwn arall o ddarparu ysgol i 250 o ddisgyblion i gynnwys disgyblion â Chyflyrau Sbectrwm Awtistig.
Fe fydd cyfarfod o’r Cabinet ddydd Iau er mwyn trafod y dewis terfynol.
"Gallaf ddatgelu bod y Corff Llywodraethol wedi rhoi gwybod i ni y byddai'n cefnogi'r cyngor i fwrw ymlaen ag Opsiwn Pedwar yn yr adroddiad annibynnol,” meddai.
“Sef adeiladu ysgol newydd mwy, gyda lle i 150 o ddisgyblion sydd ag anawsterau dysgu cymedrol, difrifol neu ddwys.
“Mae'r opsiwn yma hefyd yn cael cefnogaeth y Pennaeth a staff yr ysgol. Rwy' wir yn edmygu nhw am eu hamynedd a'u hagwedd resymol wrth ddod i'r casgliad hwn.
"Yn seiliedig ar hynny, rwy'n falch iawn o gyhoeddi mai dyma'r opsiwn y byddaf yn ei argymell i'r Cabinet ddydd Iau nesaf.”
Y cefndir
Mae rhieni'r disgyblion yn yr ysgol sydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi galw am ysgol newydd ers tro.
Dywedodd y cyngor y llynedd nad oedden nhw’n gallu parhau â'i gynlluniau presennol i adeiladu ysgol arbennig newydd yn Llanelli, i gymryd lle ysgol bresennol Ysgol Heol Goffa, oherwydd pwysau ariannol.
Ond ar ôl ymgyrch gan rieni fe wnaethon nhw benodi David Davies, cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg, i arwain adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol.
Roedd yr adolygiad a gafodd ei gyflwyno ym mis Chwefror wedi ystyried chwe opsiwn ar gyfer dyfodol yr ysgol, gan gynnwys adnewyddu'r ysgol bresennol ac adeiladu ysgol arbennig newydd.
Ym mis Mehefin penderfynodd Cabinet y cyngor i ystyried dwy o’r chwe opsiwn a fyddai yn golygu adeiladu ysgol newydd.
Ym mis Gorffennaf fe wnaethon nhw gytuno i ddiystyru'r opsiynau eraill a oedd yn cynnwys adnewyddu'r ysgol bresennol sy'n llai o faint, ac adeiladu ysgol arbennig newydd sydd â'r un nifer o leoedd.
Clywodd y cabinet y gallai'r ysgol newydd gostio hyd at £58m.
Dywedodd Glynog Davies: "Os bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei dderbyn gan fy nghyd-aelodau ar y Cabinet ddydd Iau nesaf, bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru i lunio cynllun busnes, gan y gallai ysgol arbennig newydd ar gyfer 150 o ddisgyblion gostio cymaint â £35m.
"Rhaid i mi bwysleisio petai ni wedi bwrw ymlaen â'r cynllun gwreiddiol i adeiladu ysgol newydd y llynedd, fel yr oedd llawer eisiau, byddai wedi bod yn llawn ar y diwrnod cyntaf.
“Bydd yr hyn sy'n cael ei argymell nawr yn ganlyniad llawer gwell i ddisgyblion, rhieni a staff.
"Ein blaenoriaeth fel cyngor yw sicrhau'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwangol orau ar gyfer disgyblion cenedlaethau'r dyfodol yn Llanelli, wedi'i gydbwyso gan alwadau eraill am ddarpariaeth addysgol gwell yn ardal Llanelli a rhannau eraill o'r sir, a gwerth am arian i'n trigolion."