Jac Morgan ar y fainc ar gyfer ail gêm brawf y Llewod

Jac Morgan

Mae Jac Morgan wedi ei enwi ar y fainc ar gyfer ail gêm brawf y Llewod yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Fe gafodd yr unig Gymro yn y garfan ei adael allan o’r 23 ar gyfer y gêm brawf gyntaf yn Brisbane ddydd Sadwrn diwethaf, a gafodd ei hennill gan y Llewod 27-19. 

Dyna oedd y tro cyntaf i Gymro beidio â bod yn rhan o gêm Brawf y Llewod yn erbyn Awstralia, Seland Newydd neu De Affrica ers 1896.

Ar ôl chwarae 50 munud yn erbyn y Cenhedloedd Cyntaf a Pasifika XV yn Stadiwm Marvel ddydd Mawrth, mae Jac Morgan wedi ennill ei le ar fainc y Llewod gan gymryd lle Ben Curry o Loegr.

Mae mab y prif hyfforddwr Andy Farrell, Owen Farrell, hefyd ar y fainc ar ôl bod yn gapten ar y Llewod yn eu gêm ganol wythnos ddydd Marwth.

Er iddo sgorio cais ddydd Sadwrn diwethaf mae Sione Tuipulotu wedi cael ei ollwng o'r tîm yn gyfan gwbl, gyda Bundee Aki o Iwerddon yn partneru â Huw Jones o'r Alban yng nghanol y cae.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Llewod, Andy Farrell: “Mi ydan ni wedi ein rhoi ein hunain mewn sefyllfa dda ar ôl y Prawf Cyntaf, ond rydym yn gwybod y bydd ymateb enfawr gan y Wallabies. 

“Gwelodd pawb beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig yn Brisbane ac rydyn ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni fod yn llawer gwell nag yr oedden ni yr wythnos diwethaf. 

“Mae gennym ni gyfle i chwarae o flaen 100,000 o gefnogwyr yn y MCG, un o stadiwms mwyaf eiconig y byd, a dyna sy’n gwneud Teithiau'r Llewod yn unigryw ac yn arbennig. 

“Ac rydyn ni’n gwybod y bydd cefnogwyr y Llewod yn cefnogi'r tîm ddydd Sadwrn ac yn creu awyrgylch arbennig.”

 

Tîm y Llewod

15. Hugo Keenan (Leinster/Iwerddon) #881

14. Tommy Freeman (Northampton Saints/Lloegr) #858

13. Huw Jones (Glasgow Warriors/Yr Alban) #878

12. Bundee Aki (Connacht/Iwerddon) #837

11. James Lowe (Leinster/Iwerddon) #870

10. Finn Russell (Bath/Yr Alban) #835

9. Jamison Gibson-Park (Leinster/Iwerddon) #879

1. Andrew Porter (Leinster/Iwerddon) #876

2. Dan Sheehan (Leinster/Iwerddon) #873

3. Tadhg Furlong (Leinster/Iwerddon) #818

4. Maro Itoje (Saracens/Lloegr) (C) #825

5. Ollie Chessum (Leicester Tigers/Lloegr) #875

6. Tadhg Beirne (Munster/Iwerddon) #838

7. Tom Curry (Sale Sharks/Lloegr) #853

8. Jack Conan (Leinster/Iwerddon) #839

Eilyddion

16. Ronan Kelleher (Leinster/Iwerddon) #864 

17. Ellis Genge (Bristol Bears/Lloegr) #859 

18. Will Stuart (Bath/Lloegr) #877 

19. James Ryan (Leinster/Iwerddon) #880 

20. Jac Morgan (Y Gweilch/Cymru) #861

 21. Alex Mitchell (Northampton Saints/Lloegr) #860 

22. Owen Farrell (Saracens/Lloegr) #780 

23. Blair Kinghorn (Toulouse/Yr Alban) #882

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.