Cadarnhau ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn ddigwyddodd yn Orgreave

Orgreave 1984

Fe fydd yna ymchwiliad cyhoeddus i'r gwrthdaro treisgar ddigwyddodd yn Orgreave yn ystod streic y glowyr, meddai Llywodraeth y DU.

Mae disgwyl i'r ymchwiliad graffu ar y gwrthdaro a ddigwyddodd rhwng yr heddlu a'r glowyr ym mis Mehefin 1984 yn Ne Swydd Efrog.

Roedd glowyr ar draws Prydain wedi cyrraedd y safle glo er mwyn ceisio stopio'r gwaith ond roedd miloedd o blismyn yn disgwyl amdanynt.

Cafodd 95 o'r bobl ar y llinell biced eu harestio a'u cyhuddo o achosi terfysg ac anrhefn dreisgar. Ond cafodd y cyhuddiadau eu gollwng yn ddiweddarach am fod yna amheuaeth am y dystiolaeth.

Fe fydd yr ymchwiliad yn un statudol gyda phwerau i orfodi rhywun i roi gwybodaeth os oes angen meddai'r Swyddfa Gartref.

Mae ysgrifennydd Ymgyrch y Gwir a Chyfiawnder Orgreave wedi croesawu'r newyddion.

Ond mae'r grŵp yn dweud ei fod eisiau gwybod pwy wnaeth drefnu a rhoi cyfarwyddyd i'r heddlu ar y diwrnod a sut y cafodd y penderfyniad ei wneud i "ymosod ar y glowyr oedd yn streicio a'u harestio".

'Mawredd y dasg' 

Maent hefyd yn dweud mai cwestiwn arall sydd ganddynt ydy pam bod tystiolaeth "wedi ei ddinistrio neu fod embargo arno tan 2066 a 2071".

Dywedodd Kate Flannery: "Rydyn ni nawr eisiau bod yn fodlon bod yr ymchwiliad yn mynd i gael y pwerau angenrheidiol er mwyn ymchwilio yn llawn yr holl elfennau o blismona a oedd wedi ei drefnu yn ofalus yn Orgreave. 

"Rydyn ni eisiau cael mynediad heb unrhyw gyfyngiadau i'r holl wybodaeth berthnasol gan gynnwys dogfennau gan y llywodraeth, yr heddlu a'r cyfryngau a lluniau a ffilmiau." 

Y Gweinidog Dr Pete Wilcox, sef Esgob Sheffield fydd yn cadeirio'r ymchwiliad. Mae o wedi dweud nad ydy o yn "tanbrisio'r disgwyliadau na mawredd y dasg".

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper wedi dweud bod yr hyn a ddigwyddodd yn Orgreave wedi "bwrw cysgod dros gymunedau Swydd Efrog ac ardaloedd eraill glofaol."

Ychwanegodd: "Mae'r golygfeydd treisgar a'r erlyniadau wedyn yn codi pryderon sydd heb eu hateb am ddegawdau ac mae'n rhaid i ni nawr sefydlu'r hyn ddigwyddodd."

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NMU) mae'r hyn ddigwyddodd yn Orgreave wedi "dinistrio'r ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a chymunedau glofaol hyd yn oed nawr, 41 mlynedd yn ddiweddarach.

"Mae'n hollbwysig bod yr ymddiriedaeth yna yn cael ei ennill yn ôl ac mae'r NMU yn credu y bydd yr ymchwiliad yma yn helpu rhywfaint gydag ail adeiladu'r ymddiriedaeth honno." 

Llun: PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.