Tîm pêl-droed menywod Lloegr yn galw’r heddlu dros gamdriniaeth hiliol
Mae tîm pêl-droed menywod Lloegr yn dweud eu bod nhw wedi cysylltu â’r heddlu wedi i un o’u chwaraewr dderbyn camdriniaeth hiliol yn ystod EURO 2025.
Dywedodd y Llewesau ddydd Sul eu bod nhw’n bwriadu rhoi’r gorau i benlinio cyn gemau er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i hiliaeth oherwydd bod angen “dod o hyd i ffordd newydd i bêl-droed herio hiliaeth”.
Dywedodd Jess Carter (uchod), sydd wedi chwarae 47 o weithiau i Loegr ers 2017, ei bod hi’n bwriadu camu’n ôl o’r cyfryngau cymdeithasol yn sgil y gamdriniaeth mae wedi derbyn.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ei bod yn "gweithio gyda'r heddlu i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am y troseddau casineb hyn yn cael eu dwyn gerbron y llys".
"O ddechrau'r twrnamaint, rydw i wedi profi llawer o gam-drin hiliol," meddai Carter, sy’n 27 oed.
"Er fy mod i'n teimlo bod gan bob cefnogwr hawl i'w barn ar berfformiad a chanlyniad, dydw i ddim yn cytuno, nac yn meddwl, ei bod hi'n iawn targedu rhywun ar sail hil neu ymddangosiad.
"O ganlyniad i hyn, byddaf yn cymryd cam yn ôl o'r cyfryngau cymdeithasol ac yn ei adael i’r tîm ddelio ag o.”
Dywedodd ei chyd-chwaraewr i Loegr, Lotte Wubben-Moy, y byddai hi hefyd yn camu nôl o’r cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd tîm Cynghrair Pêl-droed Merched Cenedlaethol yr Unol Daleithiau mewn datganiad: "Rydym wedi torri ein calonnau ac wedi ein cythruddo gan y cam-drin hiliol a gyfeiriwyd at Jess Carter.
"Nid yn unig mae Jess yn chwaraewraig bêl-droed o'r radd flaenaf, mae hi'n fodel rôl, yn arweinydd ac yn rhan werthfawr o'n teulu yn Gotham FC.
"Rydym yn sefyll gyda Jess, ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth i Jess gan y Llewesau a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr."
Ychwanegodd corff llywodraethu pêl-droed Ewrop, UEFA: "Ni ddylid byth oddef cam-drin a gwahaniaethu, boed mewn pêl-droed neu gymdeithas, yn bersonol neu ar-lein."
Mae gêm nesaf Lloegr yn erbyn yr Eidal yng ngemau cynderfynol Euro 2025 ddydd Mawrth.