
Arestio dwsinau mewn protestiadau'n cefnogi Palestine Action ledled y DU
Mae dwsinau o bobl wedi cael eu harestio ledled y DU dan amheuaeth o gymryd rhan mewn protestiadau i gefnogi'r grŵp gwaharddedig Palestine Action.
Cynhaliwyd gwrthdystiadau yn Llundain, Manceinion, Caeredin, Bryste a Truro ddydd Sadwrn fel rhan o ymgyrch a gydlynwyd gan Defend Our Juries.
Dywedodd Heddlu Llundain fod 55 o bobl wedi cael eu harestio yn Parliament Square o dan Adran 13 o Ddeddf Terfysgaeth 2000 dan amheuaeth o arddangos placardiau i gefnogi Palestine Action.
Roedd arestiadau hefyd ym Manceinion ac ym Mryste.
Daw yn sgil protestiadau yng Nghaerdydd ddydd Mawrth pan gafodd 13 o bobl eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu harestio yn ystod protest o blaid Palesteina.
Cafodd sawl person eu harestio yn ystod y brotest tu allan i adeilad y BBC yn y brifddinas ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae dynodi Palestine Action fel grŵp terfysgol yn golygu bod hi'n drosedd i fod yn aelod neu eu cefnogi. Fe allai olygu dedfryd o hyd at 14 mlynedd yn y carchar.
Cafodd y mudiad ei wahardd wedi iddynt hawlio cyfrifoldeb am achosi difrod gwerth £7 miliwn i awyrennau'r Awyrlu Brenhinol.
Yn ôl gwefan Palestine Action, maen nhw'n sefydliad o blaid Palestina sy'n tarfu ar y diwydiant arfau yn y Deyrnas Unedig trwy weithredu uniongyrchol.
Fe fydd gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Llun lle bydd cyd-sylfaenydd Palestine Action, Huda Ammori, yn gofyn am ganiatâd i herio penderfyniad yr Ysgrifennydd Cartref i wahardd y grŵp o dan gyfreithiau gwrth-derfysgaeth.
Lluniau: PA