Rhybudd melyn am gawodydd trwm a stormydd yn y de

Tywydd garw

Mae disgwyl cawodydd trwm a mellt a tharanau yn rhai o siroedd y de dros y penwythnos.

Mae rhybudd melyn mewn grym i 16 o siroedd.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 18:00 ddydd Sadwrn ac yn parhau tan 21:00 ddydd Sul.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai cawodydd, a stormydd taranllyd yn gallu arwain at oedi ar y ffyrdd.

Maen nhw'n rhybuddio am amodau gyrru heriol oherwydd dŵr ar y ffyrdd.

Hefyd mae'n bosibl y bydd oedi i wasanaethau trên a bws.

"Bydd disgwyl cawodydd trwm ledaenu ar draws de Cymru o’r dwyrain yn gynnar fore sul," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

"Fe allai 30-35mm o law ddisgyn mewn rhai oriau, gyda 70mm mewn rhai mannau."

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe

  • Sir Benfro

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot –

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Ceredigion

  • Sir Gaerfyrddin

  • Merthyr Tudful

  • Mynwy

  • Pen-y-bont

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Torfaen

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer sir Wrecsam fydd yn dod i rym rhwng 11:00 a 21:00 ddydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.