Ceredigion: Carchar i ddyn am dyfu gwerth £240,000 o gyffuriau mewn tŷ gwag

Canabis Ceredigion

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i garchar wedi i'r heddlu darganfod ffatri canabis oedd yn cynhyrchu gwerth £240,000 o’r cyffur mewn eiddo gwag yng Ngheredigion.

Cafodd y ffatri ei ddarganfod wedi i staff  canolfan ailgylchu yn Aberystwyth ddarganfod rhan o blanhigyn canabis.

Mae Manuel Nerguti, 20 oed, wedi derbyn dedfryd carchar am gynhyrchu cyffur dosbarth C, wedi i staff ddarganfod bag yn cynnwys coesynnau planhigion canabis, oedd wedi ei adael yn y ganolfan ar 1 Mai eleni, gan ddynion oedd wedi llogi fan Ford Transit.

Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, fe wnaeth swyddogion stopio’r fan, oedd yn teithio rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

Cafodd Nerguti a ddau ddyn arall eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi canabis, ond cafwyd eu rhyddhau gan nad oedd unrhyw blanhigion wedi eu darganfod.

Fis yn ddiweddarach, fe wnaeth yr heddlu weithredu ar warant ar dŷ gwag ym Mridell, ger Cilgerran, ble cafodd 260 o blanhigion eu darganfod mewn pum ystafell a llofft.

Roedd cyflenwad trydan yr eiddo wedi’i arallgyfeirio ac roedd offer yn ymwneud â chludo cyffuriau hefyd wedi’i ddarganfod.

Yn ystod ymgyrch  yr heddlu ar 7 Mehefin, roedd y diffynnydd wedi ceisio dianc rhag yr heddlu, ond fe wnaeth swyddogion ddod o hyd iddo yn cuddio y tu ôl i beiriant ymolchi yn mewn garej.

Ar ddiwedd yr achos yn Llys y Goron Abertawe, fe gafodd Nerguti ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar.

Roedd y Ditectif Gwnstabl Sam Garside, a oedd yn arwain yr ymchwiliad, yn awyddus i ddiolch i staff y ganolfan ailgylchu am adrodd am y gwastraff canabis mor gyflym.

Dywedodd: “Mae’r ddedfryd yma wedi digwydd oherwydd bod staff y ganolfan ailgylchu wedi cydnabod bod gweithgaredd troseddol yn digwydd, ac wedi rhybuddio’r heddlu’n gyflym.

“Roeddem yn gallu defnyddio ein gwybodaeth leol a deallusrwydd yr heddlu i weithredu gwarant lwyddiannus i helpu i gau ffatri canabis anghyfreithlon yn ardal Aberteifi.

“Rydym wedi ymrwymo i gynnal hyd yn oed mwy o ymgyrchoedd cyffuriau ledled Dyfed-Powys a pharhau i sicrhau bod mwy o droseddwyr fel Nerguti yn cael eu dwyn gerbron y llys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.