Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen i elwa o gynllun i hybu mannau gwyrdd
Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen fydd yr unig ardaloedd yng Nghymru i dderbyn cyllid o gynllun i wella mynediad at fannau gwyrdd ar draws y DU.
Bwriad y cynllun fydd creu neu wella mannau gwyrdd, strydoedd a chymdogaethau.
Mae'r ddwy sir ymhlith 40 o drefi ac ardaloedd ar draws y DU sy’n rhannu £15.5 miliwn yn y lle cyntaf.
Fe fydd Castell-nedd Port Talbot yn derbyn £339,471 tra bod Torfaen yn derbyn £808,315.
Nod y cynllun 'Trefi a Dinasoedd Natur' yw helpu awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau i wella parciau, plannu blodau gwyllt, creu parciau bach newydd a phlannu mwy o goed stryd.
Mae'n rhan o gynllun ehangach o £1 biliwn o ffynonellau preifat, dyngarol a chyhoeddus ar gyfer prosiectau gwyrdd ar draws 100 o drefi a dinasoedd dros y degawd nesaf.
'Cyflawni mwy'
Dywedodd arweinydd Cyngor Torfaen Anthony Hunt: “Rydym am i natur ffynnu yn Nhorfaen ac i fwy o bobl brofi ei nifer o fanteision iechyd a lles.
“Bydd y cyllid yn ein galluogi i weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid mewn ffyrdd newydd ac arloesol, fel y gallwn gyda’n gilydd gyflawni mwy a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i adferiad natur a chadw ein cymunedau’n iach.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Rydym wrth ein bodd yn cael y gefnogaeth gan gronfa Trefi a Dinasoedd Natur i gyflawni prosiect mor gyffrous ac ystyrlon.
"Mae hwn yn gyfle gwych i weithio law yn llaw â’n cymunedau i wella bioamrywiaeth, gwella mynediad at natur, ac ail-ddychmygu ein mannau trefol.
"Drwy gyfuno gwybodaeth leol, creadigrwydd, a gweithredu amgylcheddol, rydym yn gobeithio creu newid parhaol sy’n fuddiol i bobl a bywyd gwyllt."