Pedwar dyn ifanc yn cerdded ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth am gadwraeth morfilod
Mae pedwar dyn ifanc yn cerdded ar draws Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth am gadwraeth morfilod a dolffiniaid.
Mae Kai Lyjak, Ben Vickers, Isaac Doherty a Joel Domokos, i gyd yn 18 oed, eisoes wedi dechrau eu taith gerdded o Abertawe i Landudno.
Nod y pedwar dyn ifanc o Preston yw codi arian ac ymwybyddiaeth am gadwraeth anifeiliaid y môr sydd yn agos iawn iddynt, sef morfilod a dolffiniaid.
Ar eu taith hyd yma maen nhw wedi bod yn ddigon ffodus i weld dolffiniaid tra'n cerdded rhwng Aberystwyth a Borth.
Dywedodd Kai wrth Newyddion S4C bod ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn yr amgylchedd a newid hinsawdd.
"Rydym ni wir yn pryderu am yr amgylchedd, a dyna pam roeddem wedi penderfynu cerdded ar draws Cymru," meddai.
"Rydym ni eisiau codi ymwybyddiaeth am y pethau sydd yn mynd ymlaen gyda'r hinsawdd yn ogystal â hela morfilod, fel sydd yn digwydd yn Sgandinafia a gwledydd eraill.
"Mae'r rhan fwyaf ohonom yn rili hoffi morfilod fel anifail."
Cymru'n 'eiconig'
Penderfynodd y pedwar i gychwyn ar y daith hon ar ôl gorffen eu harholiadau safon uwch.
Y nod yw cyrraedd Llandudno erbyn 24 Gorffennaf, wedi iddyn nhw gychwyn o Abertawe ar 10 Gorffennaf.
Mae'r pedwar yn dogfennu eu taith ar eu cyfrif Instagram ac yn bwriadu creu fideo YouTube o'u profiadau yng Nghymru hefyd.
Fe gytunodd y criw i gerdded drwy'r wlad gan fod y slogan 'Wales for Whales' yn llifo oddi ar y tafod.
Ond mae pob un ohonynt wedi mwynhau eu hymweliad cyntaf i Gymru hyd yma.
"Roeddwn i wedi cael fy ysbrydoli gan rywun o'r enw GeoWizard, YouTuber oedd wedi cerdded ar draws Cymru mewn un llinell syth," meddai Isaac.
"Ac roedd hwnna yn gwneud i mi feddwl byddai Cymru yn lleoliad eiconig ar gyfer y daith."
Ychwanegodd Joel: "Mae'r daith wedi bod mor braf, rydym yn mwynhau cefn gwlad, ymweld â threfi gwahanol a chwrdd â phobl wahanol."
Wrth gerdded trwy drefi ac ar hyd llwybr yr arfordir gyda'u bagiau teithio, mae pobl leol wedi bod yn gofyn i'r bechgyn i le maen nhw'n mynd.
Mae'r ymateb i'w her gerdded i godi arian i elusen ORCA wedi bod yn gadarnhaol, meddai Kai.
"Rydym ni wedi cyrraedd Borth nawr, ac yn cymryd pethau o ddydd i ddydd.
"Mae wedi bod yn braf iawn ac mae'r bobl wedi bod mor garedig.
"Mae pobl wedi bod yn siarad gyda ni eithaf tipyn, achos dyw e ddim yn gyffredin iawn i weld pedwar dyn ifanc yn cerdded drwy drefi gyda bagiau enfawr.
"I fod yn onest, maen nhw wedi synnu gyda beth ni'n gwneud, ond hefyd yn groesawgar ac yn gofyn cwestiynau i ni."
Dolffiniaid
Ddydd Mercher, wrth gerdded ar hyd yr arfordir i Borth, fe wnaeth Kai, Isaac, Joel a Ben weld dolffiniaid.
Dyma'r tro cyntaf i'r rhai ohonynt weld dolffiniaid yn y môr, ac roedd yn brofiad oedd yn berffaith i gyd-fynd gyda'u taith.
"Roeddem wedi gweld dolffiniaid wrth gerdded i Borth, oedd yn neis iawn," meddai Kai.
Ychwanegodd Ben: "Roedd yn neis iawn achos dwi erioed wedi gweld dolffin yn y môr o'r blaen," meddai.
"Roedd yn olygfa wych ac yn hyfryd i weld tra'n codi arian i elusen sydd yn ceisio gofalu amdanynt."
Bydd Kai, Joel, Ben ac Isaac yn parhau ar hyd yr arfordir am gyfnod cyn dechrau eu taith tuag at ganol y wlad er mwyn cyrraedd Llandudno.