Rheithgor yn ystyried a wnaeth nain a thaid lofruddio eu hŵyr

Ethan Ives-Griffiths

Mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos nain a thaid i fachgen dwy oed sydd wedi eu cyhuddo o'i lofruddio.

Mae Michael a Kerry Ives, sydd yn byw ar Ffordd Kingsley, Garden City, ond sydd yn wreiddiol o Wolverhampton, yn gwadu llofruddiaeth, cyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i berson dan 16 oed.

Honnir bod y nain a taid 47 a 46 oed wedi bod yn ystafell fyw eu cartref yn Sir y Fflint, gyda'i hŵyr Ethan Ives-Griffiths ar 14 Awst, 2021, pan ddioddefodd anaf "trychinebus" i'w ben, a arweiniodd at ei farwolaeth ddeuddydd yn ddiweddarach.

Mae mam y bachgen, Shannon Ives, o Rhes-y-Cae, ger Treffynnon, yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i berson dan 16 oed.

Wrth anfon y rheithgor allan i ystyried y dyfarniadau toc cyn 11.30 ddydd Llun, dywedodd Mr Ustus Griffiths wrthyn nhw: “Nid ydych chi o dan unrhyw bwysau amser.”

Wrth agor yr achos y mis diwethaf, dywedodd Caroline Rees KC, yr erlynydd, fod Ethan wedi dioddef “creulondeb achlysurol” ac yn ôl arbenigwr meddygol, y byddai wedi profi “poen a dioddefaint yn y dyddiau a’r wythnosau cyn ei farwolaeth”.

Fe gafodd lluniau o gamera cylch cyfyng eu dangos i’r rheithgor o Michael Ives yn cario’r bachgen gerfydd ei fraich y tu allan i’w cartref.

Derbyniodd ei fod wedi esgeuluso Ethan a bod y ffordd yr oedd wedi ei gario, gan gydio yn rhan uchaf ei fraich, yn greulon.

Ond gwadodd Michael Ives iddo ei gam-drin mewn ffyrdd eraill.

Mae’r llys wedi clywed bod Ethan gyda’i nain a’i daid yn yr ystafell fyw ar 14 Awst 2021, tra bod ei fam i fyny’r grisiau ar ei ffôn.

Dywedodd Michael a Kerry Ives wrth y rheithgor nad oedd dim wedi digwydd yn yr eiliadau cyn i Ethan lewygu, ond clywodd y llys fod arbenigwyr meddygol yn credu bod ei anaf i’r pen wedi’i achosi gan ddefnydd bwriadol o rym, a allai fod wedi cynnwys ysgwyd yn rymus.

Dywedodd yr erlyniad fod y dystiolaeth arbenigol yn awgrymu bod yr anaf angheuol wedi’i achosi o fewn munudau iddo lewygu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.