Y gantores Iris Williams wedi marw'n 79 oed
Y gantores Iris Williams wedi marw'n 79 oed
Mae'r gantores Iris Williams wedi marw'n 79 oed.
Yn wreiddiol o Bontypridd, fe gafodd Ms Williams ei magu'n gyntaf mewn cartref i blant amddifad, cyn iddi gael ei maethu ac ymgartrefu yn Nhonyrefail yn y cymoedd.
Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a thra yn y coleg dechreuodd ymddangos ar y rhaglen Disc a Dawn, y ddynes groenddu gyntaf i ymddangos ar raglen deledu Cymraeg.
Yn 1968 cyhoeddodd ei record gyntaf, ac yn 1974 enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân I Gael Cymru'n Gymru Rydd.
Daeth i frig siartiau'r DU yn 1979 gyda'r gân He Was Beautiful, ac roedd ganddi hefyd gyfres deledu Saesneg ar y BBC.
Ers 1991 roedd Iris Williams wedi bod yn byw yn Efrog Newydd, lle bu'n perfformio'n rheolaidd ar y gylchdaith canu Jazz y ddinas, ac ym 1999 roedd yn un o'r sêr a berfformiodd mewn cyngerdd arbennig i ddathlu agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn America perfformiodd gyda Bob Hope a Rosemary Clooney, ac o flaen yr Arlywydd Gerald Ford.
Yn 1999 fe wnaed Iris Williams yn Gymrawd ar Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn 2004 dyfarnwyd yr OBE iddi, ac roedd hi hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd.
Fe briododd â Clive Pyatt yn 1982 ac fe gafodd eu mab Blake ei eni yn 1984.
Er ei bod wedi byw yn yr UDA ers degawdau, roedd ei gwreiddiau yn hollbwysig iddi. Dywedodd mewn cyfweliad yn 2013: “Rwy’n hanner Americaes ac yn byw yn America, ond oherwydd fy mod wedi cael fy magu yng Nghymru, Cymru fydd fy angerdd mawr a phwy ydw i bob amser.”