Newyddion S4C

Dechrau ymchwiliad i dân difrifol mewn gwesty ym Mlaenau Ffestiniog

Blaenau Ffestiniog

Mae’r gwasanaethau brys wedi dechrau ymchwiliad ddydd Llun i dân difrifol mewn gwesty ym Mlaenau Ffestiniog yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.

Roedd Stryd Fawr y dref ar gau am gyfnod wrth i dros 40 o ddiffoddwyr tân weithio i ddod â’r tân yng Ngwesty Queens sy’n dyddio yn ôl i 1867 o dan reolaeth.

Ar ei anterth roedd saith injan dân yn y fan a'r lle, gan gynnwys platfform ysgol awyr.

Fe fydd y Gwasanaeth Tân a’r Heddlu yn ymchwilio ar y cyd.

Roedd y gwesty yn cynnig llety i’r digartref a bydd yn rhaid gofalu hefyd am y rheini.

Dywedodd Canolfan Gymdeithasol Bro Ffestiniog fod yna ddillad, blancedi, cotiau, hetiau a sanau ar gael ganddyn nhw i’r rheini oedd wedi eu heffeithio gan y tân.

Fe fydd y ganolfan ar agor i unrhyw un sydd angen yr ystafell gofal dydd a bydd bwyd a diod am ddim rhwng 12.00-15.00, yn ôl y ganolfan.

Dywedodd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn wrth Radio Cymru fore Llun fod y tân wedi taro y gymuned "yn galed iawn" ond bod pawb wedi cael lle i aros erbyn hyn.

"Mae'r gymuned wedi digalonni ond wedi tynnu at ei gilydd," meddai.

"Does neb yn disgwyl i bethau fel hyn ddigwydd a pan mae yn digwydd mae'n gymaint o sioc dyw pobl ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

"Mae'n drychineb bod adeilad mor eiconig a phwysig wedi llosgi.

"Roedd o'n le pwysig i bobl heb gartref oedd yn byw yno ac roedd yn le pwysig iddyn nhw yn ogystal a'r teulu oedd yn ei redeg o."

Dywedodd bod y cyngor wedi bod mewn cyswllt ac wedi gweithredu “yn gyflym iawn” i bobl gael lloches.

“Rydw i’n ddiolchgar iddyn nhw am wneud hynny, a hefyd yn ddiolchgar i’r gwasanaethau brys am ymateb mor gyflym,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.

“A hefyd i’r cyhoedd am ymateb mor gyflym. Roedd 'na unigolion, mudiadau, llochesau wedi agor i roi cysgod i bobl oedd yn pryderu neu ddim efo lle i fynd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.