Elon Musk yn dweud ei fod yn lansio plaid wleidyddol newydd

06/07/2025
Elon Musk

Mae Elon Musk yn dweud ei fod yn lansio plaid wleidyddol newydd, wythnosau ar ôl ffraeo'n gyhoeddus gyda’r Arlywydd Donald Trump.

Fe gyhoeddodd y biliwnydd ar ei blatfform cyfryngau cymdeithasol X ei fod wedi sefydlu Plaid America, gan ei disgrifio fel her i'r system ddwy blaid Weriniaethol a Democrataidd.

Nid yw'n glir eto os ydi’r blaid wedi'i chofrestru'n ffurfiol gydag awdurdodau etholiad yr Unol Daleithiau.

Nid yw Musk, gafodd ei eni y tu allan i'r Unol Daleithiau ac felly'n anghymwys i ymgeisio am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, yn dweud pwy fydd yn ei harwain.

Fe gododd Musk y posibilrwydd o ffurfio plaid gyntaf yn ystod ei ffrae gyhoeddus gyda Trump, a welodd ef yn gadael ei rôl yn y weinyddiaeth.

Musk oedd un o brif gefnogwr ariannol Trump gan wario $250m (£187m) i'w helpu i adennill yr arlywyddiaeth.

Ar ôl yr etholiad, cafodd ei benodi i arwain yr hyn a elwir yn Adran Effeithlonrwydd y Llywodraeth (Doge), a oedd â'r dasg o wneud toriadau llym yn y gyllideb ffederal.

Fe ddechreuodd ei ffrae gyda Trump pan adawodd y weinyddiaeth ym mis Mai a beirniadu cynlluniau treth a gwariant Trump yn gyhoeddus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.