Caerdydd: Carcharu dyn am orfodi merch ifanc fregus i werthu cyffuriau
Mae dyn wedi derbyn dedfryd o saith blynedd yn y carchar ar ôl iddo feithrin perthynas amhriodol gyda merch ar ôl cwrdd â hi ar Snapchat, cyn gwneud iddi werthu cyffuriau ar ei ran.
Fe gafwyd Najib Arab, 29 oed, o Gaerdydd yn euog o drosedd dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, ar ôl i swyddogion oedd yn edrych am ferch oedd ar goll o Ferthyr Tudful, ei darganfod yn ei dŷ yn y brifddinas.
Dangosodd ymchwiliadau fod Arab wedi gorfodi'r ferch i gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol, o fewn wythnosau i'w chyfarfod.
Dywedodd y ferch ei bod wedi gorfod gwerthu cyffuriau ar ei ran mewn stryd gefn ger ei dŷ ac hefyd yng nghanol Caerdydd.
Roedd wedi gwadu iddo gadw person fewn caethwasiaeth, ond fe'i cafwyd yn euog ar ddiwedd ei achos llys.
Cafodd hefyd ei dedfrydu am feddiant gyda'r bwriad i gyflenwi cetamin a chanabis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jessica Thomas: “Manteisiodd Najib Arab ar blentyn oedd yn agored i niwed, gan ei rhoi mewn sefyllfaoedd peryglus er mwyn ei elw ei hun.
"Mae ei ddedfryd yn anfon neges glir nad oes lle i gamfanteisio ar blant yn ne Cymru.
“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i nodi a diogelu plant yn ein cymunedau sy’n cael eu camfanteisio i weithgarwch troseddol, ac rydym yn annog y rhai sydd â phryderon i’w hadrodd i ni.”