Achub merch a'i thad wnaeth ddisgyn o long fordaith
Mae merch wnaeth ddisgyn o long fordaith i mewn i'r môr wedi cael ei hachub.
Roedd ei thad wedi neidio i mewn i'w helpu ac fe gafodd o hefyd ei achub gan aelodau oedd ar fwrdd y llong.
Dywedodd un o'r teithwyr wrth wasanaeth newyddion NBC bod y plentyn wedi bod yn eistedd ar y rheilen ar y pedwerydd llawr yn cael tynnu ei llun cyn iddi ddisgyn i mewn i'r dŵr.
Roedd y llong yn mynd mor gyflym nes oedd bron i'r ddau ddiflannu dros y gorwel cyn cael eu hachub, meddai llygaid-dyst.
Inline Tweet: https://twitter.com/CBSEveningNews/status/1939821872251642096
Fe ddywedodd Disney Cruise Lines wrth Sky News: "Rydyn ni yn cymeradwyo aelodau o'n criw am eu sgiliau eithriadol a'r ffaith iddyn nhw weithredu'n gyflym. Fe olygodd hynny bod y ddau westai yn ôl ar fwrdd y llong o fewn munudau."
"Fe wnaethon ni wylio'r peth, fe wnaethon ni weld dau beth bach... roedd yn wallgof, roedd yn erchyll," meddai'r teithiwr Gar Frantz wrth NBC News, gan ddisgrifio sut y gwelodd y ddau yn mynd i mewn i'r môr a bron â diflannu i'r gorwel.
Roedd y llong yn teithio o'r Bahamas i Florida ar ddiwrnod olaf ei ddaith.
Yn ôl adroddiad gan y Gymdeithas Mordeithio Ryngwladol yn 2019, syrthiodd 25 o bobl oddi ar longau mordeithio y flwyddyn honno a dim ond naw a achubwyd o'r dŵr.