Newyddion S4C

Kneecap i berfformio yn Glastonbury yng ngwyneb gwrthwynebiad gwleidyddol

Liam O'Hanna (ar y chwith) sydd wedi cael ei gyhuddo
Aelodau o'r band Kneecap

Mae disgwyl i’r band Kneecap berfformio yng Ngŵyl Glastonbury ddydd Sadwrn er bod nifer o wleidyddion wedi dweud na ddylent gael gwneud hynny. 

Deth galwadau i atal eu perfformiad ar ôl i un o aelodau Kneecap, Liam Óg Ó hAnnaidh, 27 oed, gael ei gyhuddo o chwifio baner oedd yn cefnogi’r sefydliad terfysgol gwaharddedig Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.

Roedd cannoedd o gefnogwyr yn bresennol y tu allan i Lys Ynadon Westminster yr wythnos diwethaf i’w gefnogi pan ymddangosodd yn y llys. 

Roedd aelodau’r band, Naoise O Caireallain a JJ O Dochartaigh, yno hefyd i gefnogi’r rapiwr sydd yn cael ei adnabod fel Mo Chara. 

Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod tan ei wrandawiad nesaf yn yr un llys ar 20 Awst. 

Image
Cefnogwr Kneecap
Un o gefnogwyr Kneecap yn Glastonbury (Yui Mok/PA Wire)

Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer na fyddai’n “briodol” i’r triawd sy'n canu yn yr iaith Wyddeleg yn ogystal â Saesneg berfformio yn Glastonbury. 

Dywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, na ddylai’r BBC ddangos perfformiad Kneecap o Glastonbury. 

Mae disgwyl i Kneecap berfformio ar lwyfan West Holts am 16.00 brynhawn ddydd Sadwrn. 

Dyw’r BBC ddim wedi eu restru fel un o’r bandiau fydd yn cael eu darlledu’n fyw ar y teledu. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.