Dirwy o dros £60,000 i gwmni ailgylchu ar ôl tân sylweddol ar ystâd ddiwydiannol
Mae cwmni ailgylchu o dde Cymru wedi cael dirwy o £64,000 am droseddau amgylcheddol ar ôl i dân sylweddol gychwyn mewn safle ailgylchu ar ystâd ddiwydiannol.
Cafodd S L Recycling Limited, cwmni ailgylchu metel a gwastraff, eu herlyn wedi'r digwyddiad yn Ystrad Mynach yn Sir Caerffili ym mis Medi 2021.
Fe wnaeth y cwmni ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ar ôl pledio’n euog i dri chyhuddiad unigol mewn achos blaenorol.
Cychwynnodd tân ar raddfa fawr ar safle S L Recycling yn Ystrad Mynach ar 1 Medi 2021.
Aeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i’r safle i ddiffodd y tân, a chymerodd tan brynhawn 2 Medi i’w reoli.
'Diystyrru rhybuddion'
Dywedodd David Griffiths, Arweinydd Tîm Diwydiant a Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith am reswm.
"Mae methiant i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol trwydded amgylcheddol yn drosedd ddifrifol a allai niweidio’r amgylchedd, tanseilio’r rhai sy’n cadw at y rheolau, ac achosi dioddefaint i gymunedau lleol.
"Mae’r achos hwn yn dangos beth all ddigwydd pan nad yw gweithredwyr yn cadw at amodau eu trwyddedau. Gwnaeth y tân gychwyn am fod y cwmni wedi diystyru ein rhybuddion ynghylch uchder y pentwr, a arweiniodd yn y pen draw at effeithiau amgylcheddol sylweddol.
"Rydym yn croesawu’r ddedfryd ac yn gobeithio y bydd yn atgoffa gweithredwyr gwastraff yn gryf na fydd diystyru rheoliadau amgylcheddol yn cael ei oddef."