Pennaeth y CIA yn dweud bod rhaglen niwclear Iran wedi’i 'difrodi’n sylweddol'
Mae pennaeth y CIA wedi cefnogi barn Donald Trump fod ymosodiad yr Unol Daleithiau ar safleoedd niwclear Iran dros y penwythnos wedi achosi difrod sylweddol.
Dywedodd John Ratcliffe (uchod) fod yr asiantaeth wedi derbyn gwybodaeth newydd dibynadwy sy'n dangos fod safleoedd niwclear Iran wedi eu "difrodi'n sylweddol".
"Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth newydd o ffynhonnell/dull sydd wedi profi yn ddibynadwy a chywir yn hanesyddol bod sawl cyfleuster niwclear allweddol yn Iran wedi'u dinistrio a byddai'n rhaid eu hailadeiladu dros gyfnod o flynyddoedd," meddai.
"Mae'r CIA yn parhau i gasglu gwybodaeth ychwanegol o ffynonellau dibynadwy i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyrff penderfyniadau a goruchwylio priodol."
Roedd adroddiad cynnar gan yr Asiantaeth Cudd-wybodaeth Amddiffyn a gafodd ei ollwng i'r wasg wedi amcangyfrif fod rhaglen niwclear Iran wedi'i gohirio lai na chwe mis.
Ond fe wnaeth yr Arlywydd Trump wrthod yr adroddiadau fel "newyddion ffug".
Wrth gael ei holi cyn uwchgynhadledd NATO ddydd Mercher, dywedodd unwaith eto fod rhaglen niwclear Iran wedi'i "ddileu" a'i gohirio "degawdau".
Yn y cyfamser, mae'n ymddangos bod cadoediad yn parhau ei le rhwng Iran ac Israel ar ôl i'r ddwy wlad ymosod ar ei gilydd.