Newyddion S4C

Kelsey Parker yn colli babi yn y groth

Kelsey Parker

Mae Kelsey Parker, a oedd yn briod i'r canwr Tom Parker, wedi colli babi yn ei chroth.

Fe gafodd y babi, bachgen bach ei eni yn farw yn hwyr yn ei beichiogrwydd.

Ar y cyfrwng cymdeithasol Instagram fe rannodd Kelsey gerdd i'w mab, Phoenix.

Dywedodd mewn neges arall bod y teulu angen "lle ac amser i brosesu'r newyddion ysgubol a dinistriol yma".

Roedd Kelsey Parker yn briod gyda Tom Parker o'r band The Wanted. Ond fe fuodd o farw o diwmor ar yr ymennydd yn 2022 pan oedd yn 33 oed.

Mae gan Kelsey ddau o blant gyda Tom.

Fe wnaeth hi gyhoeddi ym mis Ionawr ei bod hi'n disgwyl ei thrydydd plentyn gyda'i chariad Will Lindsay.

Llun: @being_kelsey/Instagram
 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.