Newyddion S4C

Ynys Môn: Pryder am gwymp cyson yn nifer y plant sy’n dysgu sut i nofio

Pwll nofio

Mae pryder fod sir “sydd wedi ei amgylchynu â dŵr” wedi gweld “cwymp cyson” yn nifer y plant sy’n dysgu sut i nofio.

Mae cynghorwyr Ynys Môn yn “ymchwilio” i beth sy’n gyfrifol am y diffyg plant sy’n dysgu nofio drwy raglen Nofio Môn.

Clywodd pwyllgor archwilio'r cyngor fod y galw am leoedd ar gynllun y cyngor yn lleihau, a bellach dim ond un ganolfan oedd ar yr ynys gyda rhestr aros.

Roedd nifer y plant oedd yn dysgu nofio wedi gostwng o 1,847 yn chwarter cyntaf 2024 i 1,682 erbyn diwedd y flwyddyn.

Nid yw’r ffigurau yn cynnwys gwersi nofio mewn ysgolion cynradd.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor archwilio y Cynghorydd Jeff Evans, ei bod yn angenrheidiol "mynd i'r afael â'r mater".

Dywedodd fod yna "nifer syfrdanol o farwolaethau sy'n digwydd ledled y wlad".

"Rhaid inni wneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddysgu nofio, gan ein bod yn byw yma ar yr ynys wedi'n hamgylchynu gan ddŵr," meddai.

Dywedodd deiliad portffolio hamdden y cyngor, y Cynghorydd Neville Evans: “Dydyn ni ddim yn gwybod pam mae'n digwydd, ac rydyn ni'n ymchwilio i'r peth.

“Mae dirywiad cyson wedi bod, ond mae'n digwydd mewn ardaloedd cynghorau eraill hefyd.

“Gallai fod oherwydd nifer o resymau - costau byw, neu hyd yn oed mwy o weithgareddau hamdden eraill sydd ar gael erbyn hyn.”

Cytunwyd y byddai'r gwasanaeth yn gweithio gyda chanolfannau hamdden i hyrwyddo'r rhaglen nofio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.