Newyddion S4C

Tabledi colli pwysau newydd yn gweithio’n effeithiol medd ymchwilwyr

Colli pwysau

Mae meddyginiaeth colli pwysau newydd y mae modd ei gynnig ar ffurf tablet yn gweithio yn effeithiol iawn, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gobeithio y gall meddyginiaeth colli pwysau gael effaith sylweddol ar faint o bobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n deillio o ordewdra.

Ond mae’r feddyginiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn dod ar ffurf pigiadau sy’n rhoi baich ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.

Gallai tabledi felly gynnig ffordd fwy hwylus i filiynau o bobl golli pwysau.

Mae Amycretin, cyffur gan y cwmni Novo Nordisk, yn helpu i reoli siwgr gwaed ac archwaeth drwy dargedu dau dderbynnydd penodol yn y corff - GLP-1 a’r derbynnydd amylin.

Mae ymchwil newydd yn dangos bod pobl sydd wedi derbyn dos uwch o amycretin ar ffurf chwistrelliad wedi colli 24.% o’u pwysau ar ôl 36 wythnos o driniaeth.

Roedd ail bapur yn yr un cyfnodolyn yn mesur effaith amycretin ar ffurf tabled ar 144 o bobl dros 12 wythnos.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr gofnodi bod pobl a gymerodd y dos uchaf o 100mg y dydd wedi colli 13.1% o bwysau eu corff dros gyfnod o bedwar mis.

Roedd y sgîl-effeithiau yn y ddwy astudiaeth yn cynnwys teimlo’n sâl a chwydu ond roedden nhw’n diflannu i’r mwyafrif erbyn diwedd cyfnod y driniaeth.

“Roedd yn ymddangos bod Amycretin yn ddiogel ac yn hawdd ei oddef, ac roedd gostyngiadau sylweddol ym mhwysau’r corff ar ôl 36 wythnos o driniaeth,” meddai awduron y papur cyntaf.

Ychwanegodd awduron yr ail bapur bod “angen astudiaethau hirach gyda mwy o bobl yn cymryd rhan i werthuso diogelwch ac effeithiolrwydd amycretin mewn unigolion sy'n byw gyda gordewdra a diabetes math 2".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.